Takudzwa Ngwenya
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Mae’r Unol Daleithiau wrth eu bodd â champ sy’n ymwneud â phel siâp wy – ond nid rygbi yw hwnnw, yn anffodus. Ond bydd gemau yn erbyn yr Eidal ag Iwerddon yn gyfle iddyn nhw adael eu marc ar y gystadleuaeth eleni.

Yn y gêmau cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2011 cafodd tîm UDA fuddugoliaeth yn erbyn Canada ond collodd un gêm yn ei herbyn hefyd.

Yn ogystal trechwyd Uruguay ddwy waith. Perfformiad cymysg a gafwyd ganddi yn ei gêmau yn ystod yr hydref diwethaf, a hithau’n maeddu Portiwgal ond yn colli i Georgia a thîm A yr Alban.

Safle tebygol: Ennill un gêm yn y grŵp

Record

Mae tîm UDA wedi cymryd rhan ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau ac eithrio’r un a gynhaliwyd yn 1995.

Er hynny, dim ond dwy fuddugoliaeth gafodd hi mewn 17 o gêmau rhagbrofol a hynny yn erbyn Siapan, yn 1987 ac eto yn 2003.

Ar hyn o bryd mae hi’n 18eg ar restr goreuon yr IRB ac yn gwneud enw iddi hi’i hun hefyd fel tîm saith bob ochr dawnus iawn.

Chwaraewr i’w wylio

Takudzwa Ngwenya

Asgellwr o Zimbabwe a aeth i Texas yn 18 oed.

Chwaraeodd i glwb Dallas am ychydig o flynyddoedd cyn cael cynnig i chwarae i Biarritz.

Daeth y gwahoddiad hwnnw yn sgil y cais cyfareddol a sgoriodd yn erbyn De Affrica yng Nghwpan y Byd 2007, pan aeth heibio i’r asgellwr Bryan Habana yn rhwydd.

Collodd UDA 64-15 yn y gêm honno ond cafodd y cais hwnnw ei ddewis yn gais gorau Cwpan y Byd 2007 ac yn gais gorau’r flwyddyn honno gan yr IRB.

Sgoriodd gais cofiadwy arall i Biarritz yn erbyn y Gweilch y llynedd pan aeth heibio i Shane Williams ar wib a rhedeg 80 metr i sgorio.

Enillodd ei gap cyntaf i’w wlad yn 2007 wedi iddo chwarae i dîm o dan 19 a thîm saith bob ochr UDA.

Yr Hyfforddwr

Eddie O’Sullivan

Ers 2009 bu Eddie O’Sullivan yn hyfforddi tîm UDA pan gymerodd le Scott Johnson a symudodd at dîm y Gweilch.

Cyn hynny cafodd lwyddiant mawr fel hyfforddwr Iwerddon rhwng 2001 a 2008, wedi iddo ddilyn Warren Gatland i’r swydd honno.

Bu’n hyfforddwr cynorthwyol gydag UDA yn 1997-8 ac yn Gyfarwyddwr Technegol Cenedlaethol, cyn symud i swydd hyfforddwr cynorthwyol gydag Iwerddon yn 1999.

Enillodd 3 Coron Driphlyg gydag Iwerddon yn 2004, 2006 a 2007.

A Wyddoch Chi?

Yn 1862, pan oedd rygbi’n trio ennill ei blwy yn y wlad, cafodd myfyrwyr Coleg Yale eu gwahardd rhag ei chwarae gan ei bod hi’n gêm ‘rhy dreisgar a pheryglus’!

Pan gollodd yr Eryrod i Awstralia, 55-19, yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1999, nhw oedd yr unig dîm i sgorio cais yn erbyn Awstralia, a aeth ymlaen i ennill y Cwpan, yn ystod yr holl gystadleuaeth.