Dyw rheini tlawd ddim yn gallu cymryd swyddi oherwydd cynnydd mewn costau gofal plant, yn ôl adroddiad gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr ymchwil gan Achub y Plant a’r Daycare Trust mae nifer o rieni yn ei weld yn rhatach edrych ar ôl eu plant eu hunain yn hytrach na mynd i’r gwaith.

Mae’n costio £90 ar gyfartaledd i dalu am ofal plentyn yng Nghymru, neu £4,700 y flwyddyn.

Yn ôl yr adroddiad mae rhieni ym Mhrydain yn gwario tua traean o’u hincwm ar ofal plant – yn uwch nag unrhyw ran arall o’r byd.

Canlyniad hynny yw fod tua hanner teulluoedd sydd ag incwm o £12,000 neu lai yn torri’n ôl ar fwyd er mwyn gallu fforddio talu am ofal plant.

Dywedodd 58% o’r rheini y byddwn nhw ar eu hennill pe baen nhw’n aros adref ac edrych ar ôl eu plant eu hunain, yn hytrach na mynd i’r gwaith.

Dywedodd pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, James Pritchard, fod Llywodraeth San Steffan wedi gwaethygu pethau drwy dorri’n ôl ar gredydau treth i deuluoedd sydd â plant.

“Mae Llywodraeth San Steffan yn tanseilio eu polisi eu hunain o ‘wneud i weithio dalu ei ffordd’ drwy beidio ag ariannu gofal plant ar gyfer y teuluoedd tlotaf,” meddai.

“Mae torri credydau treth yn mynd i wneud pethau’n waeth, wrth i rieni sylweddoli nad oes pwynt gweithio os ydyn nhw’n cael llai o arian yn y pen draw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n buddsoddi arian mewn darparu mynediad i ofal plant sydd am ddim ac yn fforddiadwy.