Mynydd yr Eliffant yn Eryri
Dyw pobol sy’n byw o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ddim yn gallu fforddio tai yno, er bod prisiau wedi bod yn disgyn yn araf bach dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw diffyg tai fforddiadwy yw’r pryder pennaf ymysg cymunedau’r parc.

Dywedodd cadeirydd awdurdod y Parc Cenedlaethol fod pobol sy’n prynu tai haf yn parhau i wthio prisiau i fyny.

Yn ôl yr adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan awdurdod y Parc Cenedlaethol heddiw mae pobol ifanc yn gadael a phobol sydd wedi ymddeol yn symud i mewn yn eu lle nhw.

“Er bod prisiau tai yn syrthio ar hyn o bryd, mae’r bwlch rhwng prisiau tai ac incwm lleol yn Eryri yn debygol o barhau yn uchel,” meddai.

“Ni fydd canran uchel o’r boblogaeth leol yn gallu fforddio tŷ.

“Yn ogystal â hynny mae nifer y bobol sy’n byw mewn tai yn y parc wedi syrthio, gan awgrymu fod rhagor yn byw ar eu pennau eu hunain, a phobol ifanc yn symud allan a phobol hŷn yn symud i mewn.”

Erbyn 2032, bydd 30% o boblogaeth Eryri mewn trefi gan gynnwys  Betws y Coed, Aberdyfi, Harlech a Beddgelert, dros 65 oed, o’i gymharu â 23% yn 2008.

Mae cyflogau cyfartalog yn y parc cenedlaethol tua £18,000, ond mae prisiau tai yn £142,000 ar gyfartaledd.

Dywedodd Caerwyn Roberts, cadeirydd awdurdod y parc cenedlaethol, fod bai ar bobol yn prynu ail dai, oedd yn cynyddu prisiau yn lleol.

Roedd nifer o dai Harlech yn wag am nad oedd eu perchnogion yn eu defnyddio heblaw am ambell i wythnos bob blwyddyn, meddai.