Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio am fygythiad i ddyfodol gwelyau cocos afon Dyfrdwy yn sgil nifer cynyddol o achosion o gasglu anghyfreithlon yn yr ardal.

Yn dilyn y cyrch diweddaraf yr wythnos yma, mae disgwyl y bydd tri o bobl wedi cael eu herlyn ar ôl cael eu dal yn casglu mwy na’u cyfyngiad cwota o gocos yn yr afon.

Yn y cyrch gan yr Asiantaeth gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, cafodd 17 o gasglwyr cocos trwyddedig eu harchwilio, a chafodd dwy dunnell o gocos eu cipio gan yr awdurdodau.

Mae casglwyr trwyddedig sy’n torri’r rheolau’n wynebu cosbau ac maen nhw mewn perygl o golli eu trwyddedau.

Dyma’r trydydd tro i gasglwyr cocos gael eu dal yn torri’r rheolau’r haf yma. Cafodd dros wyth tunnell o gocos eu hatafaelu mewn cyrch tebyg ym mis Gorffennaf, a chafodd tri dyn eu dal yn casglu cocos yn anghyfreithlon ganol mis Awst.

Cynaliadwyedd

Mae’r system drwyddedu ym moryd afon Dyfrdwy yn rhoi hawl i 50 o gasglwyr trwyddedig gasglu uchafswm o 300 kilogram o gocos mewn diwrnod.

O dan drefn a gafodd ei gosod yn y foryd yn 2008, mae hawl i gasglu tua traean y cocos bob blwyddyn, sy’n golygu bod traean yn cael ei adael ar gyfer cynhaeaf y flwyddyn wedyn a thraean ar gael fel bwyd i’r amrywiaeth o adar gwyllt yno.

Meddai David Edwell, rheolwyr rhanbarth y gogledd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:

“Rydyn ni’n benderfynol fod casglu cocos ym moryd y Ddyfrdwy’n parhau’n gynaliadwy ac nad yw’n cael ei fygwth gan rai deiliaid trwyddedau sy’n anwybyddu’r rheolau.

“Mae cymryd mwy o gocos nag sy’n cael ei ganiatáu’n difetha cydbwysedd y gwelyau cocos ac yn lleihau’r hyn fydd ar gael y flwyddyn wedyn – yn ogystal â lleihau’r hyn sydd ar gael i fywyd gwyllt.”