Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio i fod yn arweinydd newydd y blaid.

Cyhoeddodd yr arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, y bydd yn trosglwyddo’r awenau yng nghynhadledd y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Erbyn hynny bydd adolygiad llawn o gyfeiriad y blaid wedi ei gynnal gan Eurfyl ap Gwilym.

Elin Jones yw’r ail ymgeisydd yn y ras, wedi i Dafydd Elis-Thomas hefyd gadarnhau ym mis Mai ei fod yn bwriadu sefyll.

“Heddiw, rwy’n datgan fy mwriad i sefyll yn yr etholiad ar gyfer Arweinydd nesaf Plaid Cymru,” meddai Elin Jones.

“Rwy’n credu bod gen i y cryfder cymeriad a’r weledigaeth glir i arwain y Blaid, ac rwyf wedi trafod gyda nifer o aelodau a chefnogwyr dros wythnosau’r haf i geisio’u barn ar ddyfodol y blaid, a fy rôl i yn y dyfodol hwnnw.

“Byddaf felly yn rhoi fy enw ymlaen i fod yn Arweinydd y Blaid pan fydd yr enwebiadau’n agor.”

Roedd Elin Jones yn Weinidog Materion Gwledig yng nghabinet Llywodreath Cymru cyn yr etholiad ym mis Mai.

Un o’r enwau eraill sydd wedi eu crybwyll ar gyfer y ras yw’r ACau Simon Thomas, ond mae wedi gwrthod dweud a fydd yn cymryd rhan yn yr etholiad eto.

‘Annibyniaeth’

Dywedodd Elin Jones fod Plaid Cymru “wedi cyflawni’n sylweddol dros Gymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.

“Eleni, fe welwyd sefydlu Senedd ddeddfwriaethol cyntaf Cymru a chwblhad tymor cyntaf erioed y Blaid mewn Llywodraeth,” meddai.

“Yn awr, mae pennod newydd yn agor ar gyfer Plaid Cymru. Ein tasg yw cryfhau ymreolaeth ac economi ein gwlad, a chyflwyno’r achos i drigolion Cymru y byddai lles ein gwlad yn elwa’n well o annibynniaeth na dibyniaeth.

“Yn wahanol i’r pleidiau Prydeinig, nid rheoli Cymru yw ein swyddogaeth, ond ei hadeiladu. Weithiau fe fydd y Blaid yn cyfrannu at y gwaith hwn oddi fewn i Lywodraeth, a throeon eraill o’r tu allan. Fodd bynnag, mae ein hamcanion yr un mor glir: ein bod yn adeiladu annibynniaeth y wlad a’n bod yn gweithio i gyflawni llewyrch economaidd a chyfiawnder cymdeithasol i’n pobl.

“Fel plaid, mae’n rhaid i ni estyn allan at nifer ehangach o bleidleiswyr. Allwn ni ddim siarad gyda’n gilydd yn unig, rhaid i ni nawr fynd a siarad gyda phawb yng Nghymru. Dros y misoedd nesaf byddaf yn mynd ati i amlinellu’n glir sut y gallwn gyflawni hyn a chynyddu niferoedd ein cefnogwyr.

“Rwyf wedi dal nifer o swyddi o fewn Plaid Cymru, yn lleol yng Ngheredigion ac hefyd yn genedlaethol, fel Cadeirydd y Blaid ac fel y Cyfarwyddwr Cyfathrebu presennol. Fe fues yn Gynghorydd Tref, ac ers 1999, yn Aelod Cynulliad i’r Blaid. Fe gychwynais fy mywyd gwaith fel Economegydd, ac mae gwleidyddiaeth wastad wedi bod yn un o’m prif ddiddordebau.

“Rwy’n Gymraes Gymraeg o’r Gorllewin ac yn Gardi balch. Petawn i wedi byw mewn unrhyw wlad arall yn y byd, fe fyddwn dal yn weriniaethwraig ac yn sosialydd. Ond fel dinesydd Cymreig, yna rwyf hefyd yn genedlaetholwraig Gymreig.

“Rwy’n uchelgeisiol dros fy ngwlad. Rwy’n ymfalchio wastad mewn ‘Grand Slam’ neu Fedal Aur i Gymru, ond nid yw’r rhain yn ddigon i mi. Rwyf hefyd am weld Cymru yn wlad hunan-lywodraethol ac ymhlith y gwledydd gorau yn y byd yn nhermau ein safonau addysg, ein heconomi a’n llwyddiannau amgylcheddol.

“Os caf fy ethol yn Arweinydd, yna fe all fy mhlaid ddisgwyl ymroddiad llwyr gennyf. Rwy’n weithwraig galed ac yn credu’n gryf mewn gwaith tîm. Ni fyddai ennill sedd ymylol fel Ceredigion pedair gwaith yn olynnol wedi bod yn bosib heb y nodweddion hyn.

“Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl a gweithio ar eu rhan. Mae fy etholwyr yn gwybod fy mod ar gael i’w cynorthwyo – boed mewn cymhorthfa ffurfiol, ar ben arall ffôn, neu yn yr archfarchnad ar brynhawn Sadwrn. Mae ennill ymddiriedaeth y bobl yn hollbwysig ar gyfer unrhyw wleidydd. Rwyf wedi gwneud hynny yng Ngheredigion ac yn fy rôl ddiweddar fel y Gweinidog dros Faterion Gwledig. Gallaf wneud hyn unwaith eto fel Arweinydd y Blaid.

“Rwy’n ystyried fy hun gyda’r gallu i wrando, y gallu i gymryd penderfyniadau anodd ac i ennill dadleuon. Ond, yn bwysicach fyth, rwyf wedi dysgu nad oes llawer o bwynt mewn cymryd penderfyniad anodd neu ennill dadl, heb gymryd pobol gyda chi. Rwy’n gallu ennill cefnogaeth pobl.

“Heddiw yw diwrnod fy mhen-blwydd yn 45 oed. Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin yn 1966, ar ben-blwydd Gwynfor – Medi’r 1af. Mae hyn yn fy ngwneud yn llwyr ymwybodol o frwydr hir-dymor aelodau a chefnogwyr y Blaid wrth geisio sefydlu cenedl annibynnol. Mae llawer wedi gweld cyfnodau gwleidyddol llawer tywyllach nac rwyf i. Fodd bynnag, fe ddylai ceisio cyflawni’r uchelgais o ryddid cenedlaethol barhau i’n huno a’n hysgogi ni i gyd.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflawni cymaint dros Gymru yn ystod ei 86 mlynedd o fodolaeth. Ond mae cymaint ar ôl i’w wneud. Wrth i ni ddechrau ar bennod newydd fel plaid, ac ar ar bennod newydd Cymru gyda’i Senedd ddeddfwriaethol, rwy’n barod i arwain Plaid Cymru.”