Myddfai
Mae un o raglenni’r BBC wedi cynddeiriogi rhai Cymry sydd wedi ei feirniadu am ei agwedd “nawddoglyd” tuag atynt.
Roedd y rhaglen Village SOS gafodd ei ddarlledu neithiwr yn “dilyn criw o drigolion lleol sy’n ceisio achub eu pentre’” ym Myddfai, Sir Gaerfyrddin.
Mae’r rhaglen wedi ei beirniadu’n hallt ar wefan Twitter, â un sylwebydd Saesneg yn dweud ei fod yn “hynod o wael” ac un arall yn credu ei fod yn “sarhaus”.
Dywedodd yr academydd DR Simon Brooks wrth Golwg360 fod y syniad sydd y tu cefn i’r rhaglen “yn drychinebus”.
Y pryder mwyaf oedd eu bod nhw wedi penderfynu dangos un ochor, Seisnigaidd, i’r gymuned yn unig, meddai.
“Beio’r BBC ydw i yn fwy na’r bobl leol. Dydw i ddim yn gwybod beth haru’r BBC yn anfon cynghorydd Ceidwadol o Gaint i mewn i’r gymuned yna,” meddai.
“Mae’n debyg y bydd y BBC yn dweud mai dewis y gymdeithas yw e. Ond, mae’n rhaid iddyn nhw gymryd rheolaeth o’r hyn maen nhw’n ei ddarlledu.
“Mae angen i’r BBC wneud ei waith ymchwil ynglŷn â natur cefn gwlad.
“Mae ’na ddwy gymuned ieithyddol yn byw yno a pan maen nhw’n dod ar draws criw o bobl o un rhan o’r gymdeithas yn unig, mae angen iddyn nhw fod yn gall a chamu yn ôl a gofyn a ydyn nhw yn cynrychioli pawb.
“Dydych chi ddim yn gallu dychmygu y bydden nhw’n darlledu rhaglen am adfywiad yn rhywle fel Brixton, rhywle lle mae tipyn go lew o bobl dŵad broffesiynol o’r tu allan wedi prynu tai, a’u bod nhw yn disgwyl i’r bobl dosbarth canol gwyn gynrychioli’r gymuned i gyd.
“Fe fydden nhw’n deall bod hynny yn ansensitif ac yn anghywir. Ond, am ryw reswm maen nhw’n meddwl bod hynny yn dderbyniol yn y cyd-destun Cymreig a dydw i ddim yn deall pam.
“Mae’n fy mhoeni i , bron a bod y BBC yn meddwl ei bod hi’n beth rhyddfrydol ac eangfrydig eu bod nhw’n darlledu’r rhaglenni yma efo pobl ddŵad yn unig ynddyn nhw.
Mae fel petaent nhw am ddangos nad oes ryw ragfarn ethnig Gymreig ganddyn nhw… Dwi i’n meddwl fod angen iddyn nhw adlewyrchu’r gymuned yn ei chyfanrwydd.”
‘Cenhadon’
Dywedodd un arall o’r gwylwyr, y Cynghorydd Arfon Jones, ei fod yn “synnu a dweud y gwir pa mor Seisnigaidd oedd y rhaglen a’r bobl oedd yn cymryd rhan, o ystyried ei fod yn ardal Gymreigaidd”.
“Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n rhaglen reit nawddoglyd. Roedd y bobl yma’n dod i mewn, fel y bobl aeth i Affrica yn y ganrif ddiwethaf. Cenhadon yn ceisio dysgu’r bobl frodorol sut i fyw.
“Mae yna lawer iawn o bentrefi Cymraeg fel Llithfaen, Clawddnewydd a Henllan lle mae pobol leol yn rhedeg busnesau cydweithredol.
“Does dim angen i bobol ddod o’r tu allan a chynnig arweiniad.”
Dywedodd Menna Machreth, sy’n gadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wrth Golwg 360 fod y rhaglen yn “edrych i lawr ar y bobol leol”.
“Mae’n dangos sut mae syniadau Cymdeithas Fawr’ y Torïaid yn dod o ongl hollol wahanol i sut mae y mae’r Cymry yn gweld Cymdeithas,” meddai.
Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb gan BBC Wales.
Malan Vaughan Wilkinson