Mae tref glan môr y Rhyl yn cynnwys y lle mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Mynegai Amddifadedd Cymru 2011 yn manylu ar ardaloedd lleiaf cefnog y wlad.

Roedd chwech o’r deg uchaf yng nghymoedd y de, ond rhan o dref Rhyl ddaeth yn gyntaf unwaith eto, ac mae rhan arall o ben gorllewinol y dref hefyd ar y rhestr.

Merthyr Tudful. Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf oedd y tri awdurdod lleol oedd yn cynnwys yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Yr ardaloedd mwyaf cefnog yng Nghymru oedd rhan o Gilâ yn Abertawe, yn ogystal â Rhiwbeina a Llandaf yng Nghaerdydd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai’r ymchwil fod o fudd iddyn nhw ddeall beth sy’n achosi tlodi yng Nghymru, a thargedu nawdd tuag at yr ardaloedd tlodaf.

Cafodd y data ei gasglu drwy rannu Cymru mewn i 1,896 ardal fach â phoblogaeth o tua 1,500 yr un.

Roedden nhw’n cyfrifo pa mor ddifreintiedig oedd pob ardal drwy ystyried sawl ffactor, gan gynnwys nifer y bobol ar fudd-daliadau, trosedd, gwaith ac addysg.

Dywedodd yr AC Mark Isherwood, sy’n cynrychioli gogledd Cymru ar ran y Ceidwadwyr, fod y ffigyrau yn dangos nad oedd strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gweithio.

“Mae ceisio gwella ein cymdeithas drwy ei reoli o ganol y Llywodraeth wedi methu,” meddai.