Simon Richardson
Mae Simon Richardson, y beiciwr o Gymru enillodd fedal aur Paralympaidd yn Beijing, wedi ei dynnu oddi ar sedatifau a peiriant anadlu ar ôl cael ei anafu mewn gwrthdrawiad ddechrau’r mis.
Mae cyflwr y seiclwr 44 oed o Ben-y-bont yn parhu yn ddifrifol ond yn sefydlog wrth iddo barhau i gael ei drin yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Enillodd Richardson ddwy fedal aur a medal arian yng Ngemau Beijing yn 2008 ac roedd o wedi bod yn ymarfer yn galed er mwyn cystadlu unwaith eto yn gemau Llundain 2012.
Ond mae’r ddamwain wedi dinistrio unrhyw obaith oedd ganddo o rasio’r flwyddyn nesaf.
Dywedodd ei noddwr a’i asiant, Phil Jones, eu bod nhw’n teimlo’n obeithiol iawn ac yn teimlo bod Simon yn dod ato’i hun yn araf bach.
“Mae’r staff meddygol wedi ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu. Roedden nhw eisiau gweld sut y byddai’n ymdopi gydag anadlu hebddo,” meddai.
“Mae yn effro erbyn hyn, ond yn dal i fod ar gyffuriau cryf iawn ac yn ddryslyd braidd. Ond mae’n argoeli’n dda.”
Cafodd dyn 59 oed o’r Bont-faen fu’n gyrru’r fan a wrthdarodd gyda Simon Richardson ei arestio a’i gwestiynu gan yr heddlu am y digwyddiad, ac mae wedi cael ei ryddhau nes 13 Hydref.