Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio yng nghanol y ddinas Ddydd Gwener nesaf i goffau pencampwr bocsio a oedd yn enedigol o Gaerdydd.
Y diweddar Jack Petersen oedd y Cymro cyntaf i ennill pencampwriaethau bocsio pwysau trwm ysgafn a phwysau trwm Prydain a’r Gymanwlad ymhlith nifer o deitlau a enillodd yn ystod ei yrfa lwyddiannus yn y 1930au.

Mae’r plac glas yn un o gyfres sydd wedi’u codi yn ne Cymru, i gofio am bobl, digwyddiadau a lleoedd enwog.

Bydd y plac yn cael ei osod ar rif 6 – 7 St Johns Street, y tu allan i siop Blacks ym mhen uchaf Yr Aes. Yr adeilad hwn oedd cartref Campfa Sefydliad Lynn ar un adeg ac roedd yn berchen i dad Jack, Pa Petersen, ddaeth yn fentor ac yn rheolwr arno.

Fe gafodd y bocsiwr ei eni yng Nghaerdydd yn 1911 a chafodd yrfa amatur disglair cyn troi’n broffesiynol yn 1931.

Fe enillodd sawl teitl gan gynnwys coron pwysau trwm ysgafn Prydain, teitl pwysau trwm Prydain a Belt Lonsdale y llwyddodd i’w gadw wyth o weithiau.

Bydd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Athro Delme Bowen a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Neil McEvoy yn bresennol yn y digwyddiad yn ogystal ag aelodau o deulu Mr Petersen.