Mae Cynghorydd Plaid Cymru o Wynedd wedi cael 16 mis o garchar heddiw.
Roedd Dewi Eirwyn Lewis, Cynghorydd Plaid Cymru ym Mhenrhyndeudraeth wedi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon mewn achos yn ymwneud â £50,000.
Roedd yn isbostfeistr ym Mhenrhyndeudraeth ac roedd wedi ei gyhuddo yn dilyn archwiliad o’r cyfrifon gan y Swyddfa Bost.
Cyn i’r helynt yma godi’i ben roedd yn Arweinydd y Portffolio Economi a Chymuned ar Fwrdd Rheoli Cyngor Gwynedd, ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w ddyletswyddau.