Gorsaf niwclear Wylfa
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn paratoi i brotestio yn erbyn cynlluniau llywodraeth San Steffan i godi gorsaf bwer newydd lai na 50 milltir o Gaerdydd.
Y bwriad yw codi gorsaf niwclear newydd y drws nesa i’r un sy’n bodloli eisoes yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.
Mae wyth o fudiadau gwrth niwclear, gan gynnwys CND Cymru, wedi dod at ei gilydd i ffurfio’r mudiad Stop New Nuclear.
Pe byddai unrhyw drychineb tebyg i un yn Fukushima yn Siapan yn digwydd yn Hinkley Point byddai de Cymru gyfan yn dioddef dan effaith llygredd, medden nhw.
“Mae Caerdydd o fewn y rhanbarth gwaharddiad 30 kilomedr (ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Siapan) ond mae Llywodraeth America yn argymell exclusion zone o 80 kilomedr fyddai’n mynd cyn belled â chyrion Abertawe,” meddai Angie Zelter, cydlynydd y mudiad, sy’n dod o Bowys.
“Yr ydyn eisoes yn gwybod bod yna ddefaid yng Nghymru sydd ddim yn cael eu gwerthu hyd heddiw oherwydd Chernobyl (damwain niwclear yn 1986).”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst