Leonard Worsill a Jac John
Mae Aelod Seneddol Llanelli yn bwriadu gofyn am ymddiheuriad swyddogol gan lywodraeth Prydain am farwolaeth dau ddyn ifanc o’r dre ganrif yn ôl.

Cafodd Leonard Worsill a Jac John eu saethu’n farw gan filwyr yn ystod terfysg yn Llanelli yng nghyfnod streic gweithwyr rheilffyrdd yno yn 1911.

Cafodd milwyr eu galw i’r dre ar ôl protest gan rai cannoedd o bobol leol a chafodd y ddau eu saethu’n farw.

“Dyma’r tro olaf i filwyr Prydain orfod tanio ar dir Prydain,” dywedodd Nia Griffith wrth Golwg, yn sgil gorymdaith yn Llanelli i gofio’r digwyddiad.

“Ar y pryd, roedd gan y Llywodraeth Weinyddiaeth Rhyfel, a nhw fyddai wedi anfon y milwyr i Lanelli. Dyw’r fath adran ddim gyda ni nawr wrth gwrs, felly dw i’n bwriadu cysylltu gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Swyddfa Gartref er mwyn gofyn am ymddiheuriad swyddogol.”

Roedd y ddau a laddwyd yn gwbl ddieuog, yn ôl Nia Griffith a’r bobol a oedd yn byw yn y stryd oedd yn cefnu i’r fan lle digwyddodd y brotest. Doedden nhw ddim chwaith yn brotestwyr nag ar streic.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst