Un o awyrenau y Llu Awyr Brenhinol
Mae galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn “i fod yn agored” am lefelau diogelwch awyrennau Hawk sy’n hedfan o safle’r Llu Awyr yn Y Fali ar Ynys Môn.
Mae holl awyrennau Hawk T1 y Llu Awyr wedi’u gwahardd rhag hedfan hyd nes bydd “ymchwiliad cychwynnol” yn cael ei gwbwlhau i ddamwain pan laddwyd peilot yn ystod sioe gan y Red Arrows yn Bournmouth.
Ddechrau’r wythnos galwodd mudiad sy’n monitro gweithgaredd milwrol yn y gwledydd Celtaidd ar i’r Weinyddiaeth Amddiffyn weithredu cyn i bobol gyffredin hefyd gael eu lladd gan fod yr awyrennau “yn hedfan dros ardaloedd poblog”.
Yn ôl y Gynghrair Geltaidd – sydd â changhennau yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw – “mae oes yr awyrennau wedi hen ddod i ben. Dyna ddigwyddodd efo’r Nimrod hefyd – roedden nhw yn eu defnyddio er nad oedden nhw’n saff a chydnabod wedyn na ddylen nhw fod wedi gwneud hynny.” meddai Cyfarwyddwr Gwybodaeth y mudiad, Bernard Moffat.
Bum mlynedd yn ôl, lladdwyd 14 o bobol pan blymiodd awyren Nimrod i’r ddaear yn Afghanistan. Yn ddiweddarach adroddodd papurau newydd fod y crwner o’r farn bod cwestiynau am ddiogelwch yr awyren wedi bod yn codi ers 40 mlynedd.
Mae cofnodion y Gynghrair Geltaidd yn dangos bod pryderon wedi codi am ddiogelwch yr Hawk T1 ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Darllenwch wedill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst