Mae archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i borthladd Rhufeinig 2,000 o flynyddoedd oed yn ne Cymru.
Daethpwyd o hyd i’r porthladd y tu allan i Gaerllion ar gyrion Casnewydd.
Dywedodd Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd y brifysgol mai dyma’r ail borthladd yn unig sy’n dyddio yn ôl i’r cyfnod Rhufeinig y maen nhw’n gwybod amdano ym Mhrydain.
Mae’r darganfyddiad yn taflu goleuni newydd ar Gymru a’i le yn yr Ymerodraeth Rufeinig yn ystod y cyfnod, medden nhw.
Mae olion y porthladd ar lannau Afon Wysg ychydig i’r gogledd o Gaerllion ac yn cynnwys cei yn ogystal â lle i longau lanio a dadlwytho.
Daethpwyd o hyd i’r porthladd wrth i’r archeolegwyr ymchwilio i faestref ar gyrion Caerllion, gafodd ei ddatgelu’r llynedd.
Dywedodd yr archeolegwyr eu bod nhw hefyd wedi dod o hyd i sawl adeilad coffaol yn ogystal ag adeiladau eraill allai fod yn farchnadoedd, tai baddonau a themlau.
Dyma’r tro cyntaf i’r adfeilion ddod i’r golwg ers bron i 2,000 o flynyddoedd, medden nhw.
“Mae beth ydyn ni wedi ei ddarganfod y tu hwnt i’n gobeithion,” meddai Dr Peter Guest sydd yn arwain y tîm o archeolegwyr o Gaerdydd.
“Rydyn ni’n dadorchuddio casgliad o adeiladau Rhufeinig nad oedden nhw’n gwybod amdanyn nhw o’r blaen. Maen nhw mewn cyflwr rhyfeddol o dda o ystyried eu bod nhw wedi bod o dan ddaear cyhyd.
“Mae’r porthladd yn ychwanegiad mawr ar archeoleg Rufeinig Prydain ac yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ni am Gaerllion.
“Rydyn ni’n credu fod y porthladd yn dyddio o’r cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid yn brwydro yn erbyn llwythau gorllewin Prydain.
“Mae’n anhygoel meddwl mai dyma’r man oedd y milwyr fu’n rhan o’r gorchfygiad hwnnw wedi cyrraedd y wlad.”