Mae un o drefnwyr Wa! Bala wedi dweud wrth Golwg360 “na wnân nhw drafferthu” trefnu’r ŵyl eto heb ragor o gefnogaeth gan dafarndai lleol.

Dim ond un tafarn sydd wedi bod yn cefnogi’r ŵyl sydd yn ei nawfed flwyddyn, er ei fod yn denu miloedd o bobol i’r Bala, meddai.

Ni wnaeth yr ŵyl golled eleni ond ni wnaeth o greu unrhyw elw chwaith, yn bennaf oherwydd nos Wener siomedig, meddai un o’r trefnwyr, Geraint Wyn Jones.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal nos Wener a Sadwrn diwethaf.

“Os na gawn ni gefnogaeth y tafarndai erbyn y flwyddyn nesaf, wnawn ni ddim trafferthu eto,” meddai Geraint Wyn Jones.

“Dydyn ni ddim yn cael unrhyw gefnogaeth. Maen nhw wedi gwneud miloedd. Roedd y stryd yn llawn dop. Mi faswn i’n meddwl bod ’na ddwy fil o bobl yn y Bala nos Sadwrn.

“O ystyried y miloedd yr ydyn ni’n ei roi yn eu pocedi nhw, mae o’n anghredadwy.

“Pobl wirion sy’n rhedeg y tafarndai. Dim ond un tafarn, Plas Coch, sydd wedi ein cefnogi ni’n ariannol erioed.”

‘Yn ein herbyn ni’

Dywedodd bod gŵyl Wa! Bala yn costio dros £25,000 i’w chynnal ac y dylai’r tafarndai ysgwyddo rhywfaint o’r baich.

“Roedd rhai tafarndai yn mynd yn ein herbyn ni mewn ffordd, gan ostwng  pris cwrw a chynnig offers er mwyn trio cadw pobl yn y dafarn yn hytrach nac yn Wa! Bala.

“Mae hynny yn ddigon i dorri calon rhywun a dweud gwir.

“Mae Spar, Keebab a’r Pizza House hefyd yn orlawn drwy’r nos a dydyn nhw ddim yn meddwl rhoi dim byd i ni.”

Dywedodd fod y niferoedd oedd wedi ymweld yn “o lew yn gyffredinol” ond fod y nos Wener “yn dawel – dim ond 300 i 400 oedd yno”.

“Roedd yna waith gwneud i fyny am nos Wener ar y nos Sadwrn. Ond, daeth dros 1,300 i mewn nos Sadwrn.”

“Dw i’n meddwl mai diffyg arian yw’r broblem,” meddai. “Does gan bobol ddim yr arian i fynd ar y ddwy noson.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai newid y dyddiad yn gwneud llawer o wahaniaeth.

“Rydyn ni’n ystyried gwneud Wa! Bala yn un diwrnod mawr ar y dydd Sadwrn wrach a pheidio gwneud y nos Wener.”