Criw Sgorio
Dyma dîm yr wythnos Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer yr ail rownd o gemau’r tymor newydd, wedi’i ddewis yn arbennig i Golwg360 gan griw Sgorio.

Golwr

Terry McCormick (Y Bala) – Cafodd ei enwi gan John Hartson fel seren yr hanner cyntaf yn y gêm fyw pnawn Sadwrn, ei waith da yn y gôl yn cadw’i dîm yn y gêm cyn i’r blaenwr daro ac ennill y triphwynt yn yr ail hanner yn erbyn Caerfyrddin.

Amddiffynwyr

Chris Thomas (Llanelli) – Un o sêr Llanelli wrth ennill rownd terfynol Cwpan Cymru ym mis Mai ar ei orau wrth roi crasfa i Lido Afan nos Wener.

Kristian O’Leary (Castell-nedd) – Roedd cyn-arwr Abertawe yn allweddol i drefnu’r amddiffyn i dîm Terry Boyle a chadw llechen lân yn erbyn y pencampwyr Bangor.

Paul Cochlin (Port Talbot) – Yn nhîm yr wythnos am yr eildro’n olynol. Chwaraeodd fel craig yn yr amddiffyn yn erbyn y Seintiau Newydd wrth i Bort Talbot gipio tripwhynt annisgwyl gan y tîm proffesiynol o Groesoswallt.

Paul Keddle (Port Talbot) – Weithiau mae angen i gefnwr greu goliau ac weithiau mae angen i gefnwr eu hatal. Roedd Keddle yn y lle cywir i atal dwy gôl sicr gan y Seintiau Newydd nos Wener, gan glirio oddi ar y llinell ddwywaith.

Canol cae

Mark Jones (Y Bala) – Perfformiad ysbrydoledig yng nghanol cae gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru. Roedd holl chwarae da’r Bala yn dechrau gyda phas gan Jones – Seren y Gêm yn ôl Malcolm Allen.

Anthony Finselbach (Aberystwyth) – Bydd rhaid iddi fod yn gôl wirioneddol arbennig i guro ymdrech Finselbach am gôl orau’r tymor yn erbyn y Drenewydd nos Wener – ergyd o 40 llath yn syth i’r rhwyd dros ben y golwr. Gwefreiddiol (Bangor v Aber yn fyw wythnos nesa).

Lee Trundle (Castell-nedd) – Roedd cyn-seren Abertawe ar ei orau yn erbyn Bangor bnawn Sul yn gweu symudiadau o ganol cae. Chwaraeodd y bas allweddol ar gyfer y ddwy gôl roddodd yr Eryrod ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru.

Ymosodwyr

Cortez Belle (Port Talbot) – Efallai ei fod yn gymeriad dadleuol ond doedd dim dadlau am ei gyfraniad ar y cae yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Seintiau – sgorio gôl a chreu gôl. Chwaraewr allai fod yn allweddol i Mark Jones y tymor hwn os yw’n llwyddo i ffrwyno ei ymddygiad oddi ar y cae

Lewis Codling (Aberystwyth) – Er nad oedd ei ergyd gystal ag un ei gyd-chwaraewr Anthony Finselbach, roedd ef yr un mor felys. Sgoriodd gydag ymdrech wych dros ben golwr y Drenewydd a gorffennodd ei ail gol yn glinigol (Bangor v Aber yn fyw wythnos nesa).

Craig Hughes (Castell-nedd) – Roedd hi’n ddi-sgôr ar y Gnoll pan ddaeth Hughes i’r maes fel eilydd wedi awr bnawn Sul. Roedd hi’n ddwy gôl i ddim ar y chwiban olaf a Hughes wedi chwarae rhan allweddol drwy ennill y bêl yn yr awyr a sgorio’r ail gôl hanfodol.