Craig Bellamy
Mae adroddiadau fod Lerpwl yn barod i gynnig cyfle i Craig Bellamy ddychwelyd at Anfield.

Mae Roberto Mancini, rheolwr Craig Bellamy yn Manchester City, wedi datgan yn gyhoeddus nad yw’n bwriadu gwneud unrhyw ddefnydd o Craig Bellamy eleni.

Ond mae ei gyflog uchel o £95,000 yr wythnos yn rhwystr i glybiau fel Caerdydd a Celtic sy’n awyddus i’w gael yn ôl.

Roedd Mancini wedi awgrymu na fyddai yn fodlon caniatáu i Bellamy gael trosglwyddiad i unrhyw glwb fyddai’n cystadlu yn erbyn Man City yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae yna awgrymiadau ei fod yn fodlon iddo drosglwyddo i Lerpwl cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo ddydd Mercher nesaf.

Yn ôl y sôn, byddai Lerpwl yn fodlon cynnig cytundeb i Bellamy, sy’n 32, a thalu ei gyflog yn llawn ar yr amod nad oes rhaid talu unrhyw ffi trosglwyddo amdano.

Mae Bellamy wedi cefnogi Lerpwl ar hyd ei oes, ac fe dreuliodd un tymor yn Anfield yn ôl yn 2006-07, ond fe fethodd a chreu llawer o argraff ar y rheolwr ar y pryd, Rafael Benitez.

Ni chafodd ei chwarae wrth i Lerpwl golli 2-1 yn rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr 2007 yn erbyn AC Milan.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth wedi honiadau ei fod wedi ymosod ar John Arne Riise, cyd aelod o’r tîm, gyda chlwb golff yn ystod gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal.

Cafodd ei werthu i West Ham am £7.5 miliwn ar ôl ennill dim ond 27 cap a sgorio 7 o goliau i Lerpwl.

Mae Lerpwl hefyd yn cystadlu gyda nifer o glybiau eraill i arwyddo’r amddiffynnwr o Uruguay, Sebastiân Coates, sy’n 20 oed ac 6 troedfedd 6 modfedd.

Cafodd ei enwebu’n chwaraewr gorau twrnamaint y Copa América, lle bu Uruguay’n fuddugol dros yr haf. Mae Luis Suarez, hefyd o Uruguay, eisoes wedi ymuno â Lerpwl.