Jamie Bevan (llun o wefan y Gymdeithas)
Mae un o’r ymgyrchwyr yn erbyn toriadau S4C wedi dweud ei fod yn disgwyl cael ei garcharu pan fydd yn wynebu llys ynadon yng Nghaerdydd, heddiw.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai Jamie Bevan, o Ferthyr Tudful fydd yr ymgyrchwr cyntaf i gael dedfryd o garchar dros ddyfodol darlledu Cymraeg ers 30 mlynedd.

Torrodd Jamie Bevan i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad.

Torrodd ef a Heledd Melangell Williams i mewn ar 6 Mawrth – y diwrnod yr oedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cyfarch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y brifddinas.

Roedd ei weithred yn rhan o ymgyrch y mudiad yn erbyn toriadau i gyllideb S4C a rhoi’r sianel dan adain y BBC.

Mewn achos llys blaenorol, gorchmynnwyd i Jamie Bevan gael tag a thalu iawndal o £1,020.

Ond dywedodd nad oedd wedi gwisgo’r tag na chadw at yr hwyrgloch a osodwyd arno, er mwyn tynnu sylw at y bygythiad i S4C.

Cafodd Heledd Melangell Williams orchymyn i dalu iawndal o £600 a rhyddhad amodol am 12 mis.

‘Hurt’

Bydd Jamie Bevan yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd, am 10.20am y bore ma.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn gwrando ar lais unedig pobl Cymru – sydd yn gwrthwynebu eu cynlluniau i roi dyfodol S4C yn y fantol – fe wynebiff mwy a mwy o’n pobl ifanc gyfnod yn y carchar,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Dyna ganlyniad penderfyniadau annoeth Llywodraeth San Steffan. Mae’n hurt ar ôl brwydr y 70au a 80au ein bod ni yn y fath sefyllfa lle mae rhaid brwydro eto dros yr hyn a enillwyd degawdau yn ôl.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd sylw o aberth Jamie dros iaith unigryw Cymru, sydd yn drysor i bawb yn ein gwlad.”