Muammar Gaddafi
Does dim golwg o Muammar Gaddafi wrth i’w luoedd arfog barhau i amddiffyn rhannau o Tripoli dros nos.

Roedd hwb i weinyddiaeth yr unben yn oriau mân y bore wrth i’w fab Saif al-Islam ail-ymddangos yn Tripoli, ddyddiau yn unig ar ôl adroddiadau ei fod wedi ei arestio gan y gwrthryfelwyr.

Dywedodd Saif al-Islam, oedd yn teithio â confoi o gerbydau arfog, eu bod nhw wedi “torri cefn” ymosodiad y gwrthryfelwyr a bod lluoedd arfog ei dad yn parhau i reoli Tripoli.

Ychwanegodd fod y gwrthryfelwyr wedi disgyn i “fagl” a bod ei dad “yn mynd i ennill y dydd – mae’r bobl ar ein hochor ni”.

Awgrymodd fod ei dad yn y brifddinas ond does neb yn gwybod lle mae Muammar Gaddafi yn cuddio ar hyn o bryd.

Daw ymddangosiad annisgwyl Saif al-Islam ar ôl i David Cameron a Barack Obama alw ar Muammar Gaddafi i “gamu o’r neilltu unwaith ac am byth” er lles y wlad.

Siaradodd yr arweinwyr dros y ffon dros nos gan drafod cynlluniau ar gyfer “trawsnewidiad heddychlon i ddemocratiaeth yn Libya”.

Rhybuddiodd y ddau y dylai’r gwrthryfelwyr “osgoi anafu dinasyddion” a chyflwyno diwygiadau oedd yn “gyfiawn ac yn gynhwysol i bawb yn Libya”.

Mae gwrthryfelwyr wedi cipio sawl ardal o’r ddinas ond roedd brwydro ffyrnig o amgylch cuddfan amddiffynedig Muammar Gaddafi.

Rhybuddiodd pennaeth Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol Libya, Mustafa Abdel Jalil, nad oedden nhw eto wedi selio’r fuddugoliaeth.

Ond “mae pobol ifanc Libya yn cymryd rhan mewn brwydr arwrol,” meddai.