The Burns Unit ar Brif Lwyfan Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Roedd arlwy dydd Sadwrn Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ddifyr ac amrywiol. Awen Schiavone fu’n adrodd ei hanes ei hamserlen brysur ar y diwrnod hwnnw…
Dwi wedi bod i Ŵyl y Dyn Gwyrdd sawl gwaith o’r blaen ond dydw i erioed wedi cael y profiad o gysgu ar dri gwely gwahanol dros un penwythnos mewn un babell! Do, fe gyrhaeddon ni’r Dyn Gwyrdd ar y nos Iau, a darganfod bod caead y gwely aer mewn lle llawer llai defnyddiol nag yr oeddwn eisiau iddo fod! Serch hynny, fe lwyddon ni i chwythu’r gwely aer, gan ddefnyddio caead potel ddŵr i gau’r twll – roedd yn ymddangos fel llwyddiant tan y bore wedyn – roedd y gwely’n fflat fel pancosen. Taith fer i Grughywel felly i brynu gwely aer newydd – £25 o fuddsoddiad doeth – tan ddeffro’r bore Sadwrn ar wely oedd eto yn fflat fel pancosen – pyncshar! Dwi’n falch o ddweud i’r trydydd gwely aer fod yn llwyddiant, oni bai am hynny, mae’n bur debyg na fyddwn wedi para’r penwythnos cyfan.
Ta waeth am hynny, roeddwn yn barod am ddiwrnod llawn adloniant a mwynhad, er mod i’n ymwybodol bod y tywydd am fod yn wlyb. Yn syth i lwyfan Tafarn y Dyn Gwyrdd felly i wrando ar driawd o Baris – We Were Evergreen. Roedd eu cyfuniad o bop aeddfed ac electronica ysgafn yn boblogaidd iawn gyda’r dorf fechan, ond gwerthfawrogol. Roedd eu harmonïau lleisiol yn wledd i’r glust gyda’u defnydd cyson o dri llais.
Croesi trwy amrywiaeth diddorol Gerddi Einstein i’r Prif Lwyfan wedyn. Yma ceir pob math o stondinau a gweithgareddau i ddiddanu unrhyw un o unrhyw oedran. Y syniad ydi cynnig cyfuniad unigryw o wyddoniaeth, natur a’r celfyddydau. Mae yma hyd yn oed gyfle i wefru ffonau symudol trwy seiclo, a sbecian ar rywogaethau sy’n cael eu darganfod yn ystod y penwythnos trwy ficrosgop.
9Bach
Ar y Prif Lwyfan mae’r dorf yn cael eu hudo gan lais Lisa Jên. Mae 9Bach yn greadigaeth y Dyn Gwyrdd ei hun – fe ddaethant i fodolaeth er mwyn chwarae yn yr ŵyl yn 2005. Erbyn hyn mae’r glaw’n cael seibiant, ac mae’r dorf yn gorweddian i fersiynau amrywiol o ganeuon gwerin Cymraeg.
Cip cyflym ar Laura J Martin ar lwyfan y Dafarn wedyn gan gael fy syfrdanu gan sgiliau ffliwt, mandolin a llais yr artist ifanc. Mae ei defnydd o beirant loop yn fy atgoffa o dechnegau rhai artistiaid Cymraeg megis Huw M a Gruff Rhys – techneg sy’n galluogi unigolyn i greu sŵn band cyfan yn fyw.
Ymlaen i lwyfan y Babell Sinema, sy’n amlwg dan do ac felly’n dywyll fel bol buwch oni bai am y sgrin tu cefn i’r llwyfan. Yma, mae Trwbador, y pâr o Gaerfyrddin sydd wedi dod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar. Mae eu sŵn swynol o lais, gitâr a xyloffon yn mynnu gwrandawiad, ac yn ennill sawl ffrind newydd.
Therapy Going
Am dro wedyn i archwilio mannau newydd y safle gan gynnwys ardal therapi. Yma gwelais fenyw yn gorwedd ar wely, gyda chwpl yn taro dau gong – un wrth ei thraed, ac un wrth ei phen – anodd deall sut all hyn fod yn ymlaciol i unrhyw un, ond pawb at y peth y bo am wn i. Roedd yno hefyd cyfleusterau sawna, cawod a massage i’r rheiny oedd yn fodlon talu.
I’r Babell Lenyddiaeth nesaf, gan ddal diwedd slot Fale Surion – cymysgedd o ddarlleniadau llenyddol Cymraeg a cherddoriaeth gan Siddi. Yn dilyn hyn, roedd y babell yn orlawn ar gyfer sgwrs John Rostron gyda James Yorkston am ei lyfr hunangofiannol ‘It’s Lovely To Be Here: The Touring Diaries Of A Scottish Gent’. Sgwrs wych am brofiadau un o fy hoff artistiaid yn teithio ar draws y byd gyda’i gerddoriaeth a’i gymhlethdodau vegan!
Gwrandawiad cyflym ar fand o Lundain ar y Prif Lwyfan wedyn. Mae Dry The River yn fand egnïol ac amrywiol, ac maent yn sicr yn un i gadw llygaid arnynt yn y dyfodol.
H. Hawkline
H. Hawkline oedd nesaf i’m diddanu, eto ar lwyfan y Dafarn – erbyn hyn, fy hoff lwyfan oherwydd yr amgylchedd cartrefol. Mae band Huw Evans yn llwyddo i gael sawl un i godi ar eu traed i symud i’r gerddoriaeth fachog a ffres.
Nôl i’r Prif Lwyfan ar gyfer set The Leisure Society – band nad oeddwn wedi eu clywed o’r blaen, er i mi glywed llawer amdanynt. Mae eu caneuon yn awgrymu eu bod yn llawn haeddu’r gwobrau mae eu halbwm wedi ennill. Yn dilyn y rhain roedd The Burns Unit – roeddwn yn edrych ymlaen at ei gweld gan fod sawl aelod yn gyn-aelodau o fandiau rwyf wedi mwynhau, megis The Delgados a King Creosote. Ond rhaid dweud mai siomedig oedd y set, ac mae’n anodd teimlo bod ffocws cryf i’w hymgais.
Ymlaen felly i ddal diwedd set yr arwr Josh T Pearson ar lwyfan Mas Draw. Roedd ei sŵn yn unigryw a’i jôcs yn anobeithiol! Roedd y babell yn orlawn, a cafodd ymateb cynnes a brwdfrydig gan bawb.
Dafliad carreg i ffwrdd mae creadigaeth ddiddorol eleni o’r Dyn Gwyrdd – anferth o ffigwr dynol-goediog, gyda llu o ddymuniadau wedi’i hysgrifennu ar ddarnau papur gwyrdd siâp dail wedi’u clymu arno – rhai’n deimladwy, a rhai’n hollol wirion!
Ychydig o gomedi wedyn, gyda’r digrifwr Mike Wozniak – tu hwnt o ddoniol, er ei ynganiad hollol anghywir o Krakow (er ddim mor ddoniol o bell ffordd ag ymgais compair sâl y Prif Lwyfan o’r enw Cowbois Rhos Botwnnog!).
Ar ôl llenwi’r bol, i’r Babell Mas Draw i wrando ar Destroyer – band o Ganada sy’n llawer mwy llawen na’u henw.
James Yorkston
Yna at uchafbwynt y diwrnod – James Yorkston ar lwyfan y Dafarn. Gyda thorf cwbl ddistaw a gwerthfawrogol, mae James a’i fand yn hudo yn ystod caneuon, ac yn diddanu rhyngddynt. Rwyf wedi bod i gigs James Yorkston sawl gwaith o’r blaen, ac roedd hwn yn un arbennig iawn. Yn sefyll yn y blaen, roedd y profiad megis cael James a’i ffrindiau’n chwarae yn fy ystafell fyw. Er iddynt gyfaddef nad oeddent wedi llwyddo i ymarfer fel grŵp llawn, fe ddangoson nhw eu talentau gan fod y set yn wefreiddiol. Roedd eu fersiwn o I Feel Love gan Donna Summer yn annisgwyl iawn, ond yn ffordd wych o orffen y perfformiad!
Ymlaen yn syth i ddal tri chwarter awr o Fleet Foxes wedyn. Fel y disgwyliwn, roedd eu perfformiad yn adlewyrchiad perffaith o’u recordiau. Roedd eu harmonïau lleisiol a’u sŵn yn gweddu’n berffaith i’r lleoliad a’r amser.
Un penderfyniad ar ôl – mynd i wylio Apocalypse Now am deirawr, ac yna i ddisgo Feeling Gloomy o dri tan bedwar y bore, neu drio’r trydydd gwely aer?!