Mentrodd Barry Chips draw i’r Bala nos Wener…
Ga i ddechrau gyda’r da? Cafwyd perfformiad penigamp gan y Moniars ar nos Wener gŵyl Wa! Bala.
Roedd y band yn llenwi’r llwyfan llydan, efo dwy slashar yn ffidlo’r ffidil ar un asgell, a sacsoffonydd bytholwyrdd ar y llall, ag Arfon Wyn y Cadfridog Canol Cae yn mynnu perfformiad gan bob un wan Jac o’i garfan.
A doedd ganddo ddim ofn codi’r bar o ran y gynulleidfa ‘chwaith, gan gyfeirio at griw gwyllt oedd yn dawnsio o’u coeau a dweud: ‘Fel yna y mae dawnsio’.
Roedd ‘Santiana’ a ‘Stryd y Becar’ yn syndod o ffresh o feddwl bod y caneuon yma yn hoelion wyth set y Moniars ers bron i ugain mlynedd bellach.
Ac mae Sara Mai yn gaffaeliad clodwiw, yn canu fersiwn angerddol o Monster Hit y Moniars, ‘Harbwr Diogel’.
Mewn gwirionedd roedd y band yn chwarae mewn pabell tri chwarter gwag, ac yn gorfod cystadlu gyda sŵn boom-boom-boom y miwsig dwrdio o’r llwyfan dawns y drws nesa’ – rhaid bod gofod yn gyfyng, achos fydda’r un trefnwr hanner call wedi gosod y ddau lwyfan mor agos fel arall.
Diod diflas
Ac roedd y cwrw, mae arna’ i ofn, yn siomedig.
Profais beint o chwerw sur ac yna peint o lager crempogaidd, cyn rhoi’r gorau i’r y bar a dychwelyd at y babell a’r cool box ffyddlon llawn o boteli Brahma, cwrw hyfryd o Frasil (sy’ wedi ei fragu yn Basildon mewn gwirionedd).
Mi fethon ni’r Masters in France o’r herwydd, gan eistedd yn sipio a diawlio dan y gazeebo.
“No need to make a Brahma out of a crisis,” medda fi’n wamal wrth fy nwy Fodryb, a chael y cerydd yma’n ôl fel bwlad: “Cau dy geg, rydan ni wedi cael hen ddigon o Seusnag am un noson!”
Roedd rheswm da am hyn: roedd y ddau fand cyn y Moniars wedi bod yn betha ifanc, yn siarad Saesneg bobo gafael rhwng y caneuon.
Gwaeddodd fy Modryb ar un canwr: “Wyt ti’n siarad Cymraeg?”
Mi ddywedodd ei fod o, cyn parhau wedyn i rwdlan yn yr iaith fain.
Ac roedd y DJ yn chwarae llwyth o recordiau Saesneg rhwng y bandiau.
Hyfryd oedd acen y boi barfog mewn het Gowboi oedd yn cyflwyno bob band yn iaith y nefoedd, ond at ei gilydd rhyw hen flas digon di-gymraeg oedd i’r arlwy…a hynny yn y Bala o bob man.
Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol: roedd modd bwyta brecwast oddi ar y toiled teithiol yn y maes pebyll, cyn uched oedd safon ei lendidrwydd.