Andrew RT Davies
Mae arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gynnal pleidlais ar gael gwared ar y gwaharddiad ar hela llwynogod.
Dywedodd Andrew RT Davies fod y Ceidwadwyr wedi addo y bydden nhw’n cynnal pleidlais ar y mater pe baen nhw’n ail-ennill grym.
Cafodd y gwaharddiad ar hela llwynogod ei gyflwyno yn 2004, ac mae’n annhebygol y bydd y Ceidwadwyr eisiau codi hen grachen er gwaethaf addewid i wrthwynebu’r gwaharddiad.
“Rydw i yn credu y dylai gwleidyddion gadw at eu haddewidion,” meddai Andrew RT Davies.
“Os ydi gwleidydd yn dweud rhywbeth ac yn ei ysgrifennu i lawr fe ddylen nhw weithredu ar hynny.”
Ychwanegodd fod hela llwynogod yn darparu gwasanaeth ar gyfer ffermwyr Cymru, a bod y gwaharddiad yn gwneud niwed i fusnesau’r wlad.
Dywedodd y dylai Llywodraeth San Steffan gynnal pleidlais rydd ar y mater heb ddweud wrth eu Haelodau Seneddol sut i bleidleisio.