Abertawe
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tri phrosiect yn Abertawe yn derbyn £585,000 er mwyn helpu i adfywio’r ddinas.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, y bydd yr arian yn mynd at ddatblygu Castell Abertawe, oriel gelf a hen waith copr.

Dywedodd fod y tri safle yn rhan bwysig o hanes y ddinas ac y dylai’r arian roi sglein i ail ddinas Cymru wrth i’r clwb lleol gystadlu yn yr Uwch Gynghrair.

“Mae Abertawe yn ddinas llawn hanes, o’i chastell hynafol i’r gorffennol diwydiannol diweddar. Bydd diogelu’r dreftadaeth yma yn bwysig iawn wrth adfywio’r ddinas.

“Fe fydd y prosiectau yma yn dweud hanes Abertawe – sut mae’r ddinas a’i phobol wedi esblygu dros y canrifoedd – ac adlewyrchu diwylliant cyfoethog heddiw.”

Bydd £135,000 yn cael ei fuddsoddi er mwyn agor Castell Abertawe i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers 50 mlynedd.

Bydd £150,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith copr yn Hafod er mwyn creu “ardal fodern a phrysur ger yr afon”.

Bydd Oriel Gelf  Glynn Vivian, a sefydlwyd yn 1911, yn derbyn £300,000 er mwyn adnewyddu’r adeilad yn y gobaith o ddenu rhagor o ymwelwyr.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Chris Holley, ei fod yn croesawu’r nawdd.

“Y gobaith fydd codi proffil Abertawe ym Mhrydain a thu hwnt,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n denu buddsoddiad newydd, ond mae hyd yn oed yn bwysicach ein bod ni’n adeiladu ar beth sydd gennym ni’n barod.”