Cynyddodd diweithdra 10,000 yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r cynnydd annisgwyl yn golygu fod 122,000, neu 8.4% o weithlu Cymru, bellach yn ddi-waith.

Ar draws Prydain cynyddodd nifer y di-waith 38,000, i 2.49 miliwn, neu 7.9% o’r gweithlu. Roedd economegwyr wedi disgwyl i nifer y di-waith ostwng tua 10,000 ar draws Prydain.

Mae yna bryder arbennig i ferched wedi i ganran y merched di-waith gynyddu i’r lefel uchaf ers 23 mlynedd.

Roedd gynnydd hefyd yn nifer y bobol oedd yn hawlio’r dôl – cynnydd o 27,000 i 1.56 miliwn o bobol.

Cynyddodd cyflogau cyfartalog 2.6% yn y flwyddyn nes mis Mehefin, cynnydd o 0.3% dros y mis blaenorol. Y cyflog cyfartalog erbyn hyn yw £462.

Ond mae’r cynnydd yn llawer is na lefel chwyddiant a gynyddodd 0.2% i 4.4% ym mis Mehefin.

Yn Llundain, lle y dechreuodd y terfysg yr wythnos diwethaf, roedd cynnydd o 22,000 mewn diweithdra, i 9.5%, neu 406,000.

Daw’r newyddion drwg am swyddi wrth i doriadau’r Canghellor George Osborne ddechrau brathu o ddifri. Maen nhw’n cynnwys torri cannoedd o filoedd o swyddi.

Y gobaith yw y byddai’r sector breifat yn creu swyddi newydd er mwyn cymryd eu lle ond mae yna bryderon am gryfder yr adferiad economaidd wedi twf o 0.2% yn unig yn yr ail chwarter eleni.

‘Siomedig’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod yr ystadegau heddiw yn dangos fod angen i economi Cymru dyfu ar frys.

“Mae’r ystadegau heddiw yn siomedig i Gymru. Dydyn ni ddim wedi bod yn gorffwys ar ein rhwyfau ond wedi bod yn ymdrin â dyfroedd economaidd hynod o arw,” meddai.

“Er gwaethaf rhai arwyddion cadarnhaol dros y misoedd diwethaf, mae’r ystadegau yn dangos fod angen i’r sector breifat yng Nghymru ddechrau cymryd y baich.

“Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cydweithio yn agos â Llywodraeth Cymru er mwyn denu rhagor o fuddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau.

“Cyhoeddwyd heddiw y bydd yna barthau menter newydd yn Henffordd a Bryste. Mae angen sefydlu rhaid tebyg yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gobeithio gweithio’n adeiladol â Llywodraeth Cymru er mwyn eu datblygu nhw.”