Mae dynes wedi marw wrth wersylla mewn pabell ger Caernarfon, meddai’r heddlu.
Mae’n debyg ei bod hi a gweddill ei theulu wedi eu gorlethu gan nwyon yn y babell.
Aethpwyd a dau o blant ac un dyn i’r ysbyty ond fe fu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Mae gweddill y teulu mewn cyflwr sefydlog. Aethpwyd a’r dyn mewn ambiwlans awyr a’r plant mewn ambiwlansiau ffordd i Ysbyty Gwynedd Bangor.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i safle gwersylla Aberafon, Gyrn Goch rhwng Caernarfon a Phwllheli, am 9.29am bore ma. Roedd y teulu wedi cyrraedd y gwersyll ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y teulu yn lleol. Dydyn nhw ddim yn ystyried y farwolaeth yn un amheus.
Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.