Adam Price
Mae yna sïon y gallai Adam Price ddychwelyd i Gymru’r flwyddyn nesaf yn llywydd ar Blaid Cymru.

Camodd o’r neilltu yn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr cyn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.

Mae wedi bod yn gwneud gradd economaidd economaidd ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau.

Penderfynodd beidio ymgeisio am sedd yn y Cynulliad eleni, ond mae sôn y gallai sefyll am ei hen sedd unwaith eto yn 2016.

Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid wrth bapur newydd y Western Mail y gallai Adam Price gymryd yr awenau yn llywydd y blaid ar ôl i dymor Jill Evans ddod i ben ym mis Medi 2012.

“Os nad yw Jill yn ymgeisio unwaith eto am dymor dwy flynedd, fe allai roi’r cyfle i Adam ddychwelyd mewn swydd proffil uchel cyn yr Etholiad Cyffredinol ac Etholiadau’r Cynulliad,” meddai.

Mae arweinydd presennol y blaid, yr Aelod Cynulliad Ieuan Wyn Jones, wedi dweud ei fod am roi gorau iddi eleni a bydd arweinydd newydd o fewn y Cynulliad yn cael ei ethol yn ei le.

Dywedodd llefarydd ar ran Jill Evans na fydd hi’n trosglwyddo’r awenau i unrhyw un nes bod ei thymor yn llywydd y blaid yn dod i ben.

Yr wythnos diwethaf lansiodd Adam Price adroddiad oedd yn awgrymu y byddai Cymru annibynnol ‘39% yn gyfoethocach’.

Cafodd yr adroddiad – ‘Effaith y Fflotila – Economïau bychain Ewrop trwy lygad y storm’ – ei gomisiynu gan Jill Evans.