Mae pensiynwr yn brwydro am ei fywyd ar ôl disgyn oddi ar feic modur.

Disgynnodd y dyn 71 oed o’i feic Honda CB 750 yn y Rhath, Caerdydd, yn ystod yr awr frys y bore ma.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi dioddef o anafiadau difrifol i’w ben a’i fod yn derbyn gofal yn Ysbyty Athrofaol Cymru’r Brifddinas.

Maen nhw’n galw am lygaid-dystion i’r hyn ddigwyddodd.

“Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Fitzallan Place ar gyffordd Stryd Knox yn y Rhath tua 8.10am bore ma,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Roedd dyn 71 oed oedd ar gefn beic modur Honda CB 750 yn rhan o’r gwrthdrawiad. Am resymau nad yw’n amlwg eto disgynnodd oddi ar y beic a dioddef anafiadau difrifol.

“Mae’r gyrrwr o ardal y Barri ac fe aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Mae’n derbyn triniaeth ar ôl anaf difrifol i’w ben. Mae mewn cyflwr difrifol iawn ar hyn o bryd.

“Mae’r heddlu’n credu fod sawl un wedi gweld beth ddigwyddodd, ac fe fyddwn nhw’n hoffi siarad â nhw.”

Dylai unrhyw un un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555 neu eu swyddfa heddlu lleol.