Y Cae Ras
Mae penaethiaid cynghrair y Blue Square yn “obeithiol” y bydd clwb pêl-droed Wrecsam yn llwyddo i’w bodloni ynglŷn â’i ddyfodol ariannol ac y bydd yn gallu chwarae yn y cynghrair y tymor hwn.
Mae ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb hefyd yn ffyddiog, gan ddweud eu bod wedi rhoi cynigion gerbron sy’n dangos eu gallu i fod yn berchnogion ar y clwb a’i gynnal yn y dyfodol.
Fe fydd trafodaethau rhwng y clwb a’r cynghrair yn parhau heddiw – er gwaetha’ rhybudd y byddai’n rhaid trefnu pethau erbyn 5 o’r gloch brynhawn ddoe.
Gofyn am sicrwydd
Yn ôl datganiad gan y Football Conference sy’n rheoli’r cynghrair, doedd y trafodaethau ddim wedi eu cwblhau’n llwyr erbyn hynny.
Maen nhw wedi gofyn am ragor o sicrwydd ynglŷn â gwarant ariannol gwerth £250,000, eu les ar y Cae Ras a sut y bydd cyflogau’n cael eu talu. Yn ôl y Conference, roedd angen rhagor o ddogfennau cyfreithiol.
Fe ddywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam eu bod wedi gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi’r clwb yn y trafodaethau.
Datganiad yr Ymddiriedolaeth
“Ein cred ni yw fod y cynigion hyn yn dangos gallu’r Ymddiriedolaeth, ar ôl perchnogi’r clwb, i gyllido’r clwb pêl-droed mewn ffordd a fydd yn cwrdd â’i holl gyfrifoldebau ariannol yn ystod y tymor sydd i ddod.”