Sian Aman
Er ei bod wedi ymddeol ar ôl 27 mlynedd o waith, mae Meistres y Gwisgoedd wedi addo y bydd yn ôl yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’ i helpu ei holynydd.
“Dwi wedi addo wrth Jim Parcnest y bydda i ’ma flwyddyn nesa,” meddai Sian Aman – Jean Huw Jones -, sy’n dweud bod yr Archdderwydd wedi ei siarsio i beidio â gorffen cyn bod ei gyfnod yntau’n dod i ben. “Felly dw i wedi dweud wrth Ela ’mod fi ar ga’l ym Mro Morgannwg i roi help.”
Ela Jones sydd bellach wedi cymryd yr awenau ers seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener pan dalodd yr Archdderwydd deyrnged wresog iawn i’r wraig sydd wedi bod yn gofalu am drefnu dillad yr Orsedd ers Eisteddfod 1985.
“Dw i’n gadael gyda stôr o atgofion a llu o ffrindiau,” meddai Jean Huw Jones wrth Golwg 360.
Ddydd Iau, cafodd gyfle i ddweud hwyl fawr dagreuol iawn wrth aelodau’r Orsedd yn y cyfarfod cyffredinol ar y maes.
“Fe fydda i yn colli’r gwmnïaeth a’r holl fynd a dod,” meddai, “ond y cyfrifoldeb yw’r peth n fydda’ i ddim yn gweld ei golli ar ôl heddi!”
Ac mae gan Feistres y Gwisgoedd gyngor i’w holynydd: “Bydd rhaid iddi ga’l sense of humour, amynedd Jôb, a doethineb Solomon i wneud y gwaith ’ma … a’r gallu i wneud gwyrthie mewn pum munud!”