Morgan Stoddaart
Roedd prif hyfforddwr Cymru’n gymharol hapus gyda’u perfformiad yn erbyn Lloegr – er iddyn nhw golli un o’u chwaraewyr ymosodol gorau.
Fydd yr olwr, Morgan Stoddart, ddim yn mynd i Gwpan y Byd ar ôl torri ei goes yn ail hanner y golled o 23 – 19 yn erbyn Lloegr.
Dim ond ar y funud ola’ yr oedd wedi mynd ar y cae ar ôl i’r maswr, Stephen Jones, dynnu cyhyr yng ngwaelod ei goes wrth ymarfer.
Fe symudodd chwaraewr ifanc y Scarlets, Rhys Priestland, i safle’r maswr, gyda Stoddart yn cymryd ei le yn gefnwr.
Gatland yn ‘fodlon’
Ar y diwedd, fe ddywedodd yr hyfforddwr, Warren Gatland, ei fod yn fodlon ar berfformiad y tîm, yn enwedig yn yr ail hanner.
“Fe roeson ni berfformiad cry’ yn yr ail hanner ac fe allwn ni adeiladu ar hynny,” meddai wedyn. “Fe wnaethon ni sgorio tri chais yn erbyn dau ac mae yna ddigon o bethau positif.
“Fe allwn ni wella ein cywirdeb ond roedd ein taclau cynta’n eithaf da ac, yn gyffredinol, mae’n ddechrau da i ni.”