Collodd Cymru 23-19 yn eu gêm gyntaf yn erbyn Lloegr wrth baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi.

Y gêm yn Twickenham oedd y cyntaf i’r ddwy wlad wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith i Seland Newydd.

Fe fyddwn nhw’n chwarae ei gilydd unwaith eto, yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, ddydd Sadwrn nesaf.

Roedd newyddion drwg i Gymru a’r Scarlets heddiw wrth i’r cefnwr Morgan Stoddart gael ei gario o’r cae ar ôl 48 munud wedi torri ei goes.

Cafodd ei gyflwyno i’r tîm cyntaf yn hwyr wedi i Stephen Jones fethu a chwarae ar ôl anafu croth y goes.

Heddiw roedd cais cyntaf gan y dyn o Samoa, Manu Tuilagi, a 13 pwynt gan Jonny Wilkinson yn ddigon i ennill y dydd i Loegr.

Fe aeth Cymru ar y blaen ar ôl 20 munud wrth i George North sgorio cais yn dilyn tri phwynt gan Wilkinson.

Sgoriodd James Haskell i roi’r tîm cartref yn ôl ar y blaen, wedi i Gymru fethu a sicrhau eu pêl eu hunain o’r llinell a gorfod caniatáu sgrym pum metr o’r llinell.

Ciciodd Wilkinson un trosiad ac un gôl adlam i’w rhoi nhw ar y blaen 13 – 7.

Roedd cais gan Tuilagi tri munud ar ôl dechrau’r ail hanner a gôl adlam arall gan Wilkinson yn ddigon i seilio’r fuddugoliaeth er gwaethaf ceisiau hwyr gan Shane Williams a George North.

Sgoriodd Williams ei 54fed cais wrth i Gymru brocio amddiffyn Lloegr yn y 56fed munud, a sgoriodd North wedi penderfyniad dadleuol i beidio â dyfarnu cais i Sam Warburton â 12 munud i fynd.