Mae Llywdoraeth Cameron yn ystyried cau ffatrioedd Remploy
Mae gweithwyr anabl yn y Rhondda yn cynnal protest 48 awr wrth i Lydoraeth Prydain ymgynghori ar ddyfodol ffatrioedd Remploy’r wlad.
Mae 72 o swyddi yn y fantol yn y Porth yn y Rhondda, yn ogystal â 300 mewn wyth safle Remply arall yng Nghymru.
Ffatrioedd yn cynnig gwaith dan amodau diogel i bobol anabl yw safleoedd Remply.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Prydain yn ystyried adroddiad sy’n awgrymu y gallai’r gweithwyr anabl gystadlu am swyddi gyda phobol eraill.
Yn ôl gweithwyr Remploy yn y Rhondda mi fyddai cau’r ffatri yn achosi chwalfa.