Protest Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod y prynhawn yma
Fe gafodd negeseuon testun eu hanfon o faes yr Eisteddfod at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn Llundain mewn protest tros ddyfodol S4C.
Roedd y negeseuon yn galw ar Lywodraeth Prydain i dynnu’r sianel o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus, sy’n dileu’r warchodaeth statudol sydd ganddi.
Roedd mwy na 100 o brotestwyr o flaen stondin Cymdeithas yr Iaith ac wedyn y tu allan i uned Llywodraeth Cymru.
Roedden nhw’n galw ar y Llywodraeth a gwleidyddion Cymru i wneud safiad cadarnach i amddiffyn y sianel.
- Ac fe alwodd yr Aelod o Senedd Ewrop, Jill Evans, am ddatganoli darlledu i Gymru fel bod penderfyniadau am ddyfodol S4C yn cael eu gwneud gan wleidyddion Cymru yn hytrach na rhai “sydd heb ddechrau deall”.
- Yn ôl cyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Sian Howys, roedd y Llywodraeth yn Llundain yn “bygwth union einioes a dyfodol y sianel”.
- Roedd yr AS Llafur lleol, Susan Elan Jones, yn galw ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru a thu hwnt i ymuno gydag ASau Llafur a Phlaid Cymru i bleidleisio tros dynnu S4C o’r Mesur.
Fe gafodd y protestwyr eu hannog i anfon neges destun yn y fan a’r lle, yn dweud: “Tynnwch S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus.