Mae dau lanc 18 oed a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â thri lladrad arfog yng Nghaerdydd yn ystod mis Gorffennaf wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra gwneir rhagor o ymchwiliadau.
Ymddangosodd trydydd llanc, sydd hefyd yn 18 oed, o Lanrhymni, Caerdydd, o flaen Llys Ynadon Caerdydd y bore yma a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan y bydd gwrandawiad pellach yn hwyrach y mis yma.
Mae wedi cael ei gyhuddo o dri lladrad arfog ac o fod ag arf tân yn ei feddiant mewn cysylltiad â thri digwyddiad mewn siopau yng Nghaerdydd y mis diwethaf.
Fe ddigwyddodd lladradau arfog yn Costcutter, Ffordd yr Eglwys Newydd, ddydd Iau, Gorffennaf 21, yn Spar, Allensbank Road, ddydd Iau, Gorffennaf 14 ac yn Spar, Clearwater Way, Lakeside, ddydd Mercher, Gorffennaf 6.
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth am ddyn sy’n cael ei ddisgrifio fel un sy’n edrych fel rhywun cymysg ei hil, rhwng 18 a 22 oed, hyd at 6 throedfedd o daldra, gyda gwallt byr tywyll cyrliog a rhesi golau amlwg.
Meddai’r Ditectif Arolygydd Shane Ahmed: “Mae troseddau o’r math yma’n brin yng Nghaerdydd ac yng ngweddill de Cymru. Mae Caerdydd yn ddinas ddiogelwch a wnawn ni ddim goddef i drais gael ei ddefnyddio yn erbyn gweithwyr ein siopau sy’n cyflawni gwasanaeth gwerthfawr yn eu cymunedau.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â CID Caerdydd ar 02920 527 420 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.