Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod fydd yn cael gwisgo’r wisg wen yn yr Orsedd yn y dyfodol.
Yn dilyn pleidlais yr aelodau yn y cyfarfod blynyddol y bore yma ar y maes, penderfynodd yr Orsedd gyfyngu ar y defnydd o’r wisg sy’n cael ei gweld fel yr un uchaf ei statws.
Dywed yr Archdderwydd ei fod yn croesawu’r penderfyniad heddiw.
“I ni heddiw wedi sefydlu yr egwyddor o gydraddoldeb rhwng aelodau’r Orsedd. Mae na fanylion i’w gweithio eto ond mae’r cyfarfod cyffredinol wedi rhoi hawl i’r bwrdd i weithredu yr egwyddor yma,” meddai T James Jones.
Bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol haf nesaf.
Iolo Morganwg
“Mae’r Eisteddfod blwyddyn nesaf yn mynd i rhoi sylw i’n sylfaenydd ni fel Gorsedd sef Iolo Morganwg,” meddai’r Archdderwydd. “Ym Mro Morgannwg ma’r Eisteddfod, ac un o’r egwyddorion yr oedd Iolo yn ei gyfri yn bwysig iawn oedd cydraddoldeb, bod holl aelodau’r Orsedd yn gydradd. Does dim neb yn bwysicach na’i gilydd.”
Er bod y lliwiau gwyrdd a glas yn parhau mae’r Archdderwydd yn dweud bod posibilrwydd y bydd lliw newydd yn cael ei greu yn y dyfodol ar gyfer yr Orsedd. Dywed hefyd fod hi yn anodd weithiau gwybod pa liw y dylai aelod o’r orsedd wisgo.
“Ma’ rai pobl yn cael eu hanrhydeddu ym maes chwaraeon. Wel dwi ddim yn siwr ymhle y bydd rheini. Ambell waith os na fyddwn i yn glir pa gategori allwn i rhoi y dewis i’r person. Beth sydd ore dach chi – mynd i’r glas neu mynd i’r gwyrdd? Y pwysig yw eu bod nhw ar yr un lefel.”
Penderfyniad arall gan yr aelodau oedd mai dim ond un unigolyn y bydd aelod o’r Orsedd yn medru cynnig i gael eu hurddo bob blwyddyn.
Ar ddiwedd y cyfarfod rhoddwyd anrheg a diolchiadau i Feistres y Gwisgoedd, Siân Aman sydd yn ymddeol ar ôl yr Eisteddfod eleni.