Huw Jones
Fe fydd gan Ymddiriedolaeth y BBC lais yn strategaeth ddarlledu S4C ac mae’r sianel yn ceisio gwneud yn siŵr na fydd ganddyn nhw fito tros ei chyllideb hefyd.

Fe fyddai’r cytundeb partneriaeth sy’n cael ei drafod rhwng y ddau sefydliad ar hyn o bryd yn golygu bod S4C yn atebol i Ymddiriedolwyr y BBC am eu cynlluniau gwario a natur y gwasanaeth.

Ond mae’n ymddangos hefyd fod brwydr yn digwydd rhwng y ddwy ochr tros reolaeth fanylach gan gynrychiolwyr y BBC, trwy edrych o flwyddyn i flwyddyn ar gyllideb y sianel a’i hadroddiad blynyddol.

Mae S4C yn ceisio sicrhau na fyddai gan y BBC fwyafrif ar Awdurdod S4C wrth iddo drafod y gyllideb fanwl.

Atebolrwydd

“Mi fyddai atebolrwydd  i Ymddiriedolaeth y BBC o ran sut mae arian S4C yn cael ei wario a hynny’n cael ei wneud trwy gytundeb ymlaen llaw,” meddai Huw Jones, Cadeirydd newydd Awdurdod S4C mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod.

“Yn fy marn i, mi ddylai hi fod yn glir na fedr cynrychiolwyr y BBC ddim cael fito ar gyllideb S4C,” meddai wrth Golwg 360 yn union wedi’r cyfarfod.

Roedd yn cydnabod y byddai ‘n rhaid i Ymddiriedolaeth y BBC gytuno ar strategaeth ddarlledu a chynlluniau gwario tymor hir S4C ymlaen llaw, a hynny ar gyfer cyfnod o bedair blynedd ar y tro.

‘Ateb buan’

Does dim sicrwydd pryd y bydd y trafodaethau’n dod i ben ond mae’r Adran Ddiwylliant yn Llundain wedi awgrymu eu bod eisiau ateb “buan”.

Mae ymgyrchwyr iaith, gwleidyddion a phobol amlwg o fewn y diwydiant yng Nghymru wedi bod yn pwyso am gadw annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C.