Flyer Steddfod gigs y Gymdeithas
Dyw gigs Cymdeithas yr Iaith heb gael ymateb cystal ers blynyddoedd iaith, yn ôl un o’u trefnwyr.

Dywedodd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd, nad yw’r Gymdeithas “wedi cael cychwyn cystal i’r wythnos ers blynyddoedd maith”.

Roedd eu gigs yng Ngorsaf Ganolog Wrecsam wedi cael ymateb “ffantastig,” meddai, ac roedd llawer iawn o gefnogaeth iddyn nhw.

Heno fe fydd Maffia Mr Huws a Heather Jones yn cystadlu yn gig y Gymdeithas, tra bod Elin Fflur a Meic Stevens ymysg y rheini fydd yn perfformio ar Faes B.

Dywedodd Guto Brychan, trefnydd Maes B, wrth Golwg 360 mai dim ond megis dechrau mae eu gigs nhw a’u bod nhw’n disgwyl i lawer iawn i bobol ifanc gyrraedd y gwersyll heddiw.

“Mae pethe’n mynd yn iawn hyd yma, ond heddiw ydi’r diwrnod mawr cynta’ o ran y gigs wrth i ni agor y ddau leoliad ar safle Prifysgol Glyndŵr,” meddai.

“Yn ôl pob tebyg mi o’dd na giw o bobl yn aros i gal mynediad i’r maes ieuenctid am 11am bore ma felly rydan ni’n disgwyl i dipyn gyrraedd heddiw.”

Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith a’r Eisteddfod Genedlaethol beidio â threfnu gigs ar y cyd eleni ar ôl cadoediad y llynedd.

Roedd trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi’r llynedd y byddai Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio â nhw wrth drefnu gigs Maes B am dair blynedd nesaf.

Daeth y penderfyniad ar ôl blynyddoedd o gystadlu brwd dros dyrfaoedd y Maes Ieuenctid.

Ond penderfynodd yr Eisteddfod gefnu ar y trefniant eleni gan ddweud bod y Gymdeithas wedi parhau i drefnu eu gigs eu hunain oedd yn cystadlu gydag arlwy Maes B.

“Dydyn ni ddim yn gweithio ar y cyd gyda Maes B eleni. Ond rydyn ni’n parhau i gydweithio gyda nhw mewn ffyrdd eraill,” meddai Osian Jones.