Eisteddfod Wrecsam
Mae maes carafanau’r brifwyl wedi plesio Eisteddfodwyr eleni, gyda rhai yn dweud ei fod yn gyfleus iawn i’r maes ei hun.

Yr unig gwynion yw arwyneb tyllog y maes – a hefyd y ffaith nad oedd carafanwyr yn derbyn signal sianeli teledu o Gymru.

Mae yna hefyd bryderon am blant yn beicio ar y tracfyrddiau y mae ceir yn eu defnyddio er mwyn teithio i mewn ac allan o’r maes.

“Rydan ni’n hapus iawn gyda’r ymateb i Faes Carafanau’r Eisteddfod eleni, gyda phawb yn dweud ei fod yn hwylus a’i fod o ansawdd uchel,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth Golwg360.

“Os oes unrhyw un yn cael unrhyw broblem, dylid cysylltu gyda swyddfa’r Eisteddfod.”

Dywedodd eu bod nhw wedi trefnu arolwg o garafanwyr yn dilyn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau, a “roedd y mwyafrif llethol yn erbyn gwahardd beiciau o’r Maes Carafanau”.

“Ond, mae rheolau ac amodau’r maes yn datgan yn glir na ddylid beicio ar y tracfyrddau ac rydym yn gofyn i rieni barchu’r rheol hon a sicrhau bod eu plant yn cydymffurfio,” meddai.

‘Cyfleus’

“Mae’r maes yn gyfleus iawn ac mae’n hwylus cerdded i lawr i Faes C a digon o fysiau Gwennol yn mynd a dod,”meddai Caryl Roberts o Borthmadog sy’n carafanio gyda dwy o’i merched.

“Mae’r maes carafanau ei hun yn grêt. Yr unig beth fyddwn i’n cwyno amdano yw’r holl dyllau sydd ynddo. Dw i wedi gweld un ddynes mewn oed yn disgyn ar ôl rhoi ei throed mewn twll yn y ddaear.

“Ond, does ’na’r un o’r plant wedi brifo,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n pryderu fod plant yn beicio ar y tracfyrddiau.

“Mae plant ifanc allan drwy’r amser, hyd yn oed ar ôl iddi nosi, yn chwarae ar y trac ac mae’n beryg bywyd pan mae ceir yn mynd i fyny ac i lawr,” meddai.

“Dw i ’di bod yn i siarad gyda’r stiwardiaid ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi siarad gyda rhieni ac nad ydi’r rhieni eisiau gwybod – a’u bod nhw’n caniatáu i’w plant chwarae ar y traciau.

“Hon yw’r unig flwyddyn nad ydi fy mhlant fy hun wedi cael dod a beic am fy mod i’n ei gweld hi mor berygl,” meddai.

Roedd hi hefyd yn teimlo fod angen rhagor o gawodydd.

“Yn y cae top mae yna gaban enfawr a lle i ryw 25 bobl eistedd yn y caban ond tair cawod,”  meddai.

‘Stiwardiaid ardderchog ond dim BBC Cymru’

“Mae’r maes carafanau’n gyfleus a’r stiwardiaid yn ardderchog fel arfer ac yn rhoi pob cymorth,” meddai Phil Davies o Dalybont sy’n carafanio yn yr Eisteddfod drwy’r wythnos.

“Mae’r ffaith bod modd cerdded i’r steddfod yn hynod gyfleus eleni. Mae disgwyl am fws yn gallu bod yn ddigalon,” meddai.

Ond un gwyn oedd ganddo, oedd y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr, oedd nad oedd derbyniad teledu o Gymru yn yr ardal.

“Mae’n gwbl anghredadwy nad oes modd tiwnio’r teledu a chael BBC Cymru er enghraifft!

“Rowch chi’r BBC ymlaen ac mae’r newyddion yn dod o Fanceinion.”

‘Pryder’

“Roedd yn dweud yn y llythyrau gawson ni o flaen llaw nad oedd plant ddim i fod i feicio ar y tracfyrddau,” meddai Eirlys Edwards o’r Parc wrth y Bala.

“Ond wrth gwrs, maen nhw’n gweld un wrthi ac maen nhw i gyd yn mynd a gwneud tyd.

“Fe aeth fy mab i arno, a disgyn a brifo’i ben glin. Ond, mae’n dipyn gwaeth ar ôl iddi lawio -mae’n na hogan oedd ddwy garafán oddi wrthon ni oedd yn gorfod mynd i’r ysbyty ddoe ar ôl agor ei thalcen ar ôl disgyn.

“Mae’r tyllau yn bryder. Dw i ar ferch wedi baglu fwy nac unwaith, ond dydyn nhw heb amharu gormod arnom ni.”

Ychwanegodd fod staff yr eisteddfod yn “barod i helpu”.

”Un pryder ydi nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg yn y siop. Rwyt ti’n disgwyl hynny gan ein bod ni yn y Steddfod. Dw i’n meddwl y dylen nhw.”

Pryder arall oedd gan Eirlys Edwards o’r Bala oedd y cawodydd a glanweithdra.

“Mae angen sicrhau bod y cawodydd yn lan a thaclus bob bore….Mae rhywun yn disgwyl eu bod nhw wedi’u glanhau bob dydd.”

‘Grêt’

Yn ôl Gareth Griffith o’r Felinheli sy’n carafanio gyda’i deulu am yr wythnos mae’r maes carafanau yn “grêt”.

“Rydan ni ar dir fflat digwydd bod. Mae’r cawodydd a’r toiledau yn OK ar hyn o bryd felly mae bob dim yn iawn,” meddai.

“Mae’r maes campio yn iawn,” meddai Clwyd Jones o Gwm Dyserth sy’n campio gyda’i deulu.

“Mae’r toiledau a’r cyfleusterau yn ymyl. Dw i’n poeni am y plant efo’r beics hefyd ond mae’n gyfrifoldeb ar y rhieni tydi!

“Os ydyn nhw’n gadael iddyn nhw ddod a beic wel dyna fo! Dydyn ni heb adael i’r rhain ddod a beics, yn fwriadol.”