Barddas
Mae ysgrifennydd Cyhoeddiadau Barddas wedi wfftio stori yn rhifyn diweddar Lol ynglŷn â nifer aelodau’r Gymdeithas Gerdd Dafod, gan ddweud ei fod yn gamarweiniol.
Dywedodd Dafydd Islwyn wrth Golwg 360 nad oedd ffigyrau Lol yn gywir a nad oedden nhw wedi trafferthu cysylltu â nhw i’w gwirio chwaith.
Mae’r cylchgrawn dychanol flynyddol yn honni fod gan Barddas 701 o aelodau a nad ydi 140 o’r rheini wedi talu am eu tanysgrifiad.
Ond mae’r gwir ffigwr yn agosach ar 490 os ydych yn diystyru y sefydliadau megis llyfrgelloedd ac ysgolion sydd yn derbyn copiau a’r ffaith fod y cylchgrawn wedi colli rhai aelodau, meddai Lol.
“Doedd neb wedi cysylltu â fi i ofyn beth ydi’r ffigyrau diweddar. Ar ddiwedd mis Gorffennaf roedd 50 aelod heb weld eu ffordd yn glir i dalu,” meddai Dafydd Islwyn.
“Dyna ydi’r ffigyrau. Ac mae gennym ni 690 aelod ar y rhestr ar hyn o bryd. A dweud y gwir roeddwn i’n chwerthin neithiwr wrth ddarllen yr eitem am ei bod hi mor gamarweiniol.
“Gobeithio nad oes unrhyw un yn mynd i’w chymryd hi o ddifri. ‘Sa pwy bynnag ‘sgwennodd hi wedi gwneud ei waith cartref i gael y ffigyrau yn gywir – iawn. Mae yna le i ddychan a bob dim.”
Yn ol yr ysgrifennydd mae yna dros 700 o gopiau o Barddas yn cael eu gwerthu bob tri mis.
Ond mae’n cyfaddef efallai nad yw’r cylchgrawn yn apelio at y to ifanc ac mae tua 75 yw cyfartaledd oedran yr aelodau.
“Mae yn broblem i unrhyw gylchgrawn neu unrhyw gyhoeddiad, sef annog yr ifanc i gymeryd rhan. Fyddwn i wrth fy modd gweld mwy o’r ieuenctid yn ymaelodi â Barddas,” meddai.
Fodd bynnag mae’n dweud fod y gymdeithas yn cynnal nifer o gystadleuthau ar gyfer beirdd ifanc a fod dyfodol y byd barddonol yn edrych yn addawol.
“Dw i’n gweld darpar brifeirdd y dyfodol ymysg y beirdd ifanc yma sy’n eu 20au a’r 30au. Mae cystadleuthau’r gadair a’r goron am y ddeugain mlynedd nesaf yn mynd i fod yn gref iawn,iawn.
“Dw i eisiau cefnogi’r beirdd a’u tynnu nhw i mewn i’r gymdeithas a’u hannog nhw i ‘sgwennu ag i weithio ar gerddi.”
Mae’n costio £25 bob blwyddyn i ymaelodi â’r Gymdeithas Gerdd Dafod.