Y cyfle i gyrraedd cynulleidfa fawr oedd y prif ysgogiad i gystadlu yng Ngwobr Goffa Daniel Owen eleni, meddai’r enillydd.
“Dw i’n ysgrifennu achos bo’ fi mo’yn i bobol i’w ddarllen e,” meddai Daniel Davies, sydd eisoes wedi cyhoeddi tair nofel, ac un gyfrol o straeon byrion.
“Mae’n gyfle i werthu mwy o lyfre, a cha’l mwy o bobol i’w darllen hi,” meddai wrth son am ei nofel, Tair Rheol Anhrefn.
Ac nid dyma’r tro cyntaf i’r enillydd gystadlu ar y Daniel Owen – fe gystadlodd yn 2007, ond fe aeth nofel Tony Bianchi, ‘Pryfeta’, â hi bryd hynny.
Saith mlynedd i weld golau dydd
Mae hi wedi cymryd saith mlynedd i’r awdur, sy’n hanu o Lanarth yng Ngheredigion, gyhoeddi’r stori ers i’r syniad ei daro tra’n gerdded ar hyd llwybr arfordirol Sir Benfro.
Aeth tair blynedd o waith i mewn i’w hysgrifennu hi hefyd, wrth i’r awdur geisio dod o hyd i amser i ysgrifennu wrth weithio’n llawn amser yn newyddiadurwr ar-lein gyda’r BBC.
“Ma’ syniade wastad yn dod,” meddai’r tad i dair o ferched, “ond ca’l amser i eiste’ lawr a neud e yw’r peth.”
Diolch i olygydd diwyd
Wrth drafod ei nofel wedi’r seremoni, dywedodd Daniel Davies fod arno ddyled fawr i’r gŵr a fu’n ei helpu i olygu’r nofel fuddugol wedi iddo glywed ei fod wedi ennill.
Dywedodd fod Alun Jones o wasg y Lolfa yn help mawr iddo wrth roi’r nofel hon – a sawl un arall – at ei gilydd yn derfynol.
“Dw i ise diolch i Alun… mae e wedi gweithio’n galed arni,” meddai – gan ychwanegu nad ef yn unig sydd wedi elwa o arweiniad y golygydd o ogledd Ceredigion.
“Ma’ Alun Jones wedi gwneud gwahaniaeth mawr i lenyddiaeth Cymru,” meddai.