Mae bachgen 12 oed wedi marw ar ôl i byst gôl ddisgyn ar ei ben wrth iddo chwarae pêl-droed.

Fe fu farw Casey Breese ar gaeau chwarae Caersws, ym Mhowys, ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ei fod ar ddeall bod grŵp o hogiau lleol yn chwarae pêl-droed pan syrthiodd y pyst i’r llawr.

“Yn anffodus fe fuodd un o’r bechgyn farw o’i anafiadau,” meddai.

“Aethpwyd a’r dioddefwr i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mewn ambiwlans ond roedd wedi marw yn fuan ar ôl cyrraedd.”

Mae’r heddlu wedi tynnu pyst y gôl oddi yno a siarad â phlant ac oedolion oedd yn yr ardal tua 2.50pm ddydd Gwener.

“Mae’r plant oedd yn bresennol wedi eu heffeithio gan beth ddigwyddodd ac fe fydd swyddog sydd wedi ei hyfforddi yn arbennig yn siarad â’r teuluoedd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Inspector Ian Andrews, eu bod nhw’n gweithio ag Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Powys.

“Rydyn ni’n cydymdeimlo â’r teulu sydd wedi dioddef colled ofnadwy ac yn gofyn i’r cyfryngau barchu eu preifatrwydd,” meddai.

Doedd y farwolaeth ddim yn un amheus ac mae’r crwner wedi cael gwybod, meddai.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw lygaid dystion i ffonio 101.