Mae gwylwyr y glannau wedi rhybuddio pobol i sicrhau eu bod yn gwybod pryd mae’r llanw yn mynd i mewn ac allan cyn cerdded ar hyd yr arfordir.

Daw’r rhybudd ar ôl i ddau griw o bobol ifanc orfod cael eu hachub o’r un clogwyn o fewn pum diwrnod i’w gilydd.

Derbyniodd Gwylwyr y Glannau Abertawe alwad 999 am 6.10pm brynhawn ddoe ar ôl i bedair merch 16 oed gael eu dal gan y llanw.

Anfonwyd hofrennydd RAF Chivenor draw a chafodd y bobol ifanc eu codi o ymyl y clogwyn i fan diogel.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau eu bod nhw wedi cael y “cyngor diogelwch priodol cyn cael eu rhoi yng ngofal eu rhieni”.

Ddydd Mercher diwethaf bu’n rhaid codi tri bachgen 15 oed o’r un clogwyn ar ôl iddyn nhw fynd yn gaeth wrth geisio eu dringo nhw.

“Cyn i chi droi trwyn tuag at yr arfordir mae’n bwysig gwirio’r tywydd a’r llanw fel eich bod chi’n barod,” meddai David Jones o Wylwyr y Glannau Abertawe.

“Mae’n werth ystyried a oes yna bosibilrwydd y byddwch chi’n cael eich dal gan y llanw, a chofiwch beidio ceisio dringo;r clogwyni.

“Ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau os ydych chi mewn perygl.”