Mae'r BBC eisoes wedi rhoi'r gorau i ddarparu adran chwaraeon Gymraeg ar y We.
Bydd newyddiadurwyr y BBC yn streicio ar ddydd Llun cynta’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi cadarnhau wrth Golwg360 heddiw y bydd staff BBC sy’n aelodau o’r Undeb yn mynd ar streic 24 awr.

Dyma fydd yr ail ddiwrnod o weithredu diwydiannol gan aelodau’r undeb fel rhan o ymgyrch yn erbyn diswyddo gwirfoddol.

Bu diwrnod tebyg o streicio bythefnos yn ôl, gyda Radio Cymru yn gorfod ailddarlledu rhaglenni yn lle’r newyddion a rhaglen Newyddion y BBC ar gyfer S4C yn bum munud o hir, yn hytrach na’r hanner awr arferol.

“Rydym yn siomedig bod Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn bwriadu mynd ar streic, ac rydym yn ymddiheuro i’n cynulleidfa os bydd hyn yn tarfu ar wasanaethau mewn unrhyw ffordd,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360.

Doeddwn nhw’n methu cadarnhau ar unwaith pa raglenni penodol fydd cael eu heffeithio o ganlyniad i’r streic. Mae’n bosibl bydd mwy o fanylion yn y man.

Diwrnod cyntaf y streic

Fe wnaeth staff y BBC gynnal streic 24 awr bythefnos yn ôl mewn gwrthwynebiad i gynlluniau’r BBC i ddiswyddo staff. 

Roedd aelodau’r undeb wedi creu llinell piced tu allan i stiwdios a swyddfeydd y BBC ar draws Prydain.

Yn ystod y streic ddiwethaf, doedd dim modd cynnal y sioe sgwrsio wleidyddol Dau o’r Bae o Fae Caerdydd.

Ac nid oedd bwletinau byrion ar S4C, a Chyfarwyddwr newydd BBC Cymru Rhodri Talfan Davies wnaeth gyflwyno’r fersiwn pum munud o Newyddion ar S4C.