Yr Athro Richard Wyn Jones
Er mai dim ond pedwar mis sydd wedi mynd heibio ers i’r Cymry gynnal refferendwm ar rymoedd y Cynulliad, mae’r arbenigwr gwleidyddol Dr Richard Wyn Jones yn galw am fwy o newid eto i’r cyfansoddiad.
Yn ôl yr academydd a’r sylwebydd gwleidyddol, a fydd yn cyflwyno darlith ar y mater yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dydi cyfansoddiad presennol Cymru ddim yn ddigonol i ddelio â’r newidiadau o ran datganoli.
Mae Richard Wyn Jones o’r farn na chafwyd trafodaeth ddigon manwl wrth lunio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn enwedig o gymharu â’r trafodaethau estynedig fu yn yr Alban cyn sefydlu Senedd y wlad honno.
Mae problemCymru, meddai, yn deillio o bensaernïaeth model datganoli Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
“Mae nifer wedi gobeithio y bydd gweithredu Rhan 4 Deddf Llywodraeth Cymru yn esgor ar gyfnod mwy sefydlog yn hanes datganoli,” meddai. “Ond wrth graffu’n fanwl ar y bensaerniaeth gyfansoddiadol a ymgorfforir yn Rhan 4 – rhywbeth na ddigwyddodd wrth i’r ddeddf honno ymlwybro trwy’r Senedd yn Llundain – gwelwn fod ’na broblemau go syflaenol yn parhau.”
Yn ôl Richard Wyn Jones, mae’r drafodaeth ynglŷn â chyfansoddiad Cymru yn un anochel yn sgil refferendwm Mawrth 2011, ac fe fydd e’n ceisio ysgogi’r darfodaeth honno ymhen wythnos ar faes yr Eisteddfod.
Darlith gyntaf y Coleg Cymraeg
Bydd y ddarlith, sydd i’w chynnal ddydd Gwener nesaf, yn ddechreuad ar gyfres darlithoedd blynyddol gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews, fe fydd cyflwyno Richard Wyn Jones i draddodi darlith flynyddol gyntaf y Coleg yn ddechrau pwrpasol iawn i’r digwyddiad.
“Mae’n ysgolhaig sydd wedi bod yn flaengar tu hwnt yn natblygiadau cyfrwng Cymraeg ac wrth ddatblygu maes astudiaeth Gwleidyddiaeth Cymru, ac mae’n addas iawn taw Richard Wyn Jones sy’n traddodi darlith gyntaf y Coleg, darlith flynyddol a fydd, rwy’n siŵr, yn dod rhan bwysig o weithgareddau ysgolheigaidd y Coleg Cymraeg.”
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 12pm, ddydd Gwener 5 Awst 2011, ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrcsam.