Clawr cylchgrawn Lol
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi bygwth mynd â chylchgrawn Lol i’r llys os ydyn nhw’n dweud unrhyw beth “enllibus” amdani eleni.
Yn ôl Bethan Jenkins, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru, mae hi’n gwbl o ddifri am y bygythiad.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad nad oedd hi’n mynd i stumogi unrhyw “gelwydd” amdani yn y cylchgrawn eleni.
“Gair i bobl sy’n neud Lol eleni yn y Steddfod- os mae rhywbeth enllibus amdana i ynddo, bydda i’n dwyn achos yn ei herbyn,” trydarodd yn gynharach.
“Dwi just wedi cael digon,” meddai Bethan Jenkins, sy’n dweud nad yw hi’n hapus am bethau sydd wedi ymddangos yn y cylchgrawn amdani hi yn y gorffennol.
Dywedodd cyfarwyddwr dienw Cwmni Drwg, sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn, fod “cael ymateb CYN i’r cylchgrawn ddod mas yn addawol iawn”.
“Ry’n ni’n edrych edrych ymlaen at sylwadau pellach Bethan ar ôl iddi weld y rhifyn,” meddai.
“Mae’r cylchgrawn wedi ei argraffu pnawn ddoe, ond buom ni’n tshecio unrhyw straeon ‘peryglus’ gyda’n cyfreithiwr ymlaen llaw.
“Wnaeth e ddim dweud bod ’na broblem gyda’r straeon am Bethan Jenkins.
“Gyda llaw mae ’na lwyth o straeon am ‘Plaid’ yn y rhifyn yma gan gynnwys saga Sian Caiach yn erbyn Plaid.”
Ychwanegodd fod ganddyn nhw hefyd stori am obsesiwn un Aelod Cynulliad â bronnau Nerys Evans.
Bydd y cylchgrawn ar werth ar Faes yr Eisteddfod drwy’r wythnos am £3, a siopau llyfrau eraill ledled Cymru.