Clawr hunangofiant newydd Meic Stevens
Yn y gyntaf yn ein cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stevens, ‘Mâs o Mâ’ ( Y Lolfa), mae Meic yn bwrw ei fol am drefnwyr gŵyl Lorient, crachach y BBC a’r Taffia…
Dwi erioed wedi canu yn Lorient, er mod i’n un o geffyle blân y byd cerdd yng Nghymru ers i mi ddechre sgrifennu a pherfformio yn 1968.
Yn wir, er cryn embaras, dwi wedi cael fy ngalw’n ‘benteulu canu gwerin Cymru’ ac yn ‘chwedl o ddyn’. Yn ôl y sôn, dwi hefyd yn dipyn o ‘athrylith’ ar y gitâr ond dwi’n haeddu dim o’r canmol hyn ac mae’r cwbwl ymhell ohoni (Duw gadwo’r wasg!).
Dwi erioed, felly, wedi perfformio yn Lorient nac ychwaith mewn gwyliau Celtaidd eraill lle mae’r tâl yn dda a phosibilrwydd o ennill enwogrwydd a gwerthu mwy o recordie.
‘Ddim yn addas i gynrychioli Cymru’
Ystyriaethe ariannol fu y tu ôl i hyn fel arfer, a’r ffaith nad oedd rhai unigolion yng Nghymru, wedi cael eu penodi gan drefnwyr y gwyliau yn Lorient, yn awyddus i fi fod yno.
Yn fy marn i, ychydig a wydde’r asiantiaid hyn am gerddoriaeth Llydaw a Chymru, a do’n nhw ddim yn gwbod beth roedd y cyhoedd yn galw amdano yng Nghymru nac yn sicr yn Llydaw; do’n nhw ddim yn ymwybodol o’r hyn oedd yn dda ac yn boblogaidd a bydden nhw, yn y pen draw, yn anfon rhyw gerddorion amatur yno, oedd yn cyfri’r daith fel gwyliau bach ar y piss!
Hefyd, am resymau personol mae’n amlwg, do’n nhw ddim yn meddwl mod i’n addas i gynrychioli Cymru dramor, er mai fi oedd y canwr o Gymro enwoca a mwya poblogaidd yn Llydaw, o bell ffordd.
‘Saff yn eu swyddi bras’
Ches i erioed fy nerbyn gan grachach y BBC a’r Taffia (pwy bynnag ydyn nhw?!): roedd carfanau yng Nghymru – ac i raddau maen nhw yno o hyd – yn gwneud eu gore i bardduo fy enw trwy ledaenu clecs celwyddog amdana i.
Mae eu gor-ddweud llawn gwatwar, eu penderfyniade cul, eu diffyg dawn greadigol wedi rhoi’r sbroc yn olwyn unrhyw gynnydd artistig erioed. Mae diffyg diddordeb anhygoel hefyd ym myd y celfyddyde yng Nghymru – diffyg ymwybyddiaeth – yn arbennig yn y byd cerdd, byd nad ydyn nhw, a siarad yn gyffredinol, byth yn ei gymryd o ddifri.
Maen nhw’n saff yn eu swyddi bras, yn cropian ar eu cyflymdra’u hunain (fel angladd malwen ar darmac gwlyb!), yn barod i saethu unrhyw beth sy’n symud yn gynt na hynny, neu unrhyw syniad nad ydyn nhw’n ei ddeall.
Maen nhw’n anwybodus, yn anartistig, falle’n genfigennus a’u hunig gymhelliad yw hyrwyddo’u statws eu hunain a’u cynnal eu hunain yn eu henaint – fel picls mewn jar! Sy’n fendigedig gyda bara a chaws fferm!
Jigi-jigl, locsys a jyrsis wedi’u gwau
Yn ddiweddarach, yn ôl pob golwg, bachwyd asiantaeth Lorient gan y gwerins arty-farty na wydden nhw fawr ddim am gerddoriaeth Cymru na Llydaw – pobol fel y criwie bodhrán jigi-jiglyd, yn locsys a jyrsis wedi’u gwau i gyd, sy’n meddwl mai hen fenyw yn maldodi telyn o flân y tân mewn bwthyn bach to gwellt yw cerddoriaeth Cymru. Heb sôn am ddawnswyr y glocsen a bandie gwerin o ffidlau ac acordions sy’n chware cerddoriaeth Iwerddon ac sy’n esgus bod yn ganu gwerin Cymru – ond fydd e byth!
Mae’r sothach ’ma i gyd yn fodd i fyw i’r Byrdde Croeso sydd â’r arian i noddi’r rwtsh! Dyma be sy’n cael ei anfon dramor a’i werthu fel celfyddyd gerddorol Cymru. Mae’n warth mentro chware ffurfie cerddorol eraill – R&B, y felan a cherddoriaeth roc! Ond mae dylanwade jazz i’w clywed ar recordie gwerin modern yng Nghymru. Mae ffans pybyr jazz dwi wedi’u cyfarfod yn hen snobs annioddefol sydd ddim yn deall beth maen nhw’n ei glywed.
Unweth, pan ofynnwyd i Count Basie pa fath o gerddoriaeth roedd e’n ei chware, ei ateb oedd “Cerddoriaeth dda”. Does dim gwadu bod yr asiantiaid hyn, heb ddiferyn o waed y cerddor ynddyn nhw, yn dda eu byd, yn cael gwylie am ddim a threulie bras.
Mae ‘Mâs o Mâ’ yn cael ei lansio yn mhabell Y Lolfa ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am 2pm ddydd Iau nesaf, 4 Awst. Gallwch brynu’r gyfrol o wefan Y Lolfa.
Bydd dyfyniad difyr arall o’r gyfrol yn ymddangos ar Golwg360.com yfory.