Daethpwyd o hyd i gorff dyn mewn afon ger Caernarfon dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw brynhawn ddydd Sadwrn ar ôl cael gwybod bod corff yn Afon Gwyrfai, ym Montnewydd tua 3.48pm.
Deallir fod plant lleol wedi gweld y corff o’r ffordd y tu ôl i dafarn y Newborough Arms, sy’n enwog fel y dafarn yn C’mon Midffild.
Anfonwyd tîm dwr arbenigol yno er mwyn tynnu’r corff o’r afon. Roedd y dyn eisoes wedi marw.
Dyw’r heddlu ddim yn credu fod y farwolaeth yn un amheus ond maen nhw wedi lansio ymchwiliad.
Bydd enw’r dydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, ar ôl i’r teulu gael gwybod.