CHWILIO AM GEFNOGWYR PÊL-DROED A RYGBI BRWDFRYDIG

Oes gennych chi ddiddordeb mewn newyddiaduraeth a gohebu chwaraeon?

Os ydych chi’n dilyn gemau pêl-droed Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd neu unrhyw un o’r 12 clwb yn Uwch-Gynghrair Cymru, neu os ydych chi’n gefnogwr brwd i un o’r 4 rhanbarth rygbi, mae gennym gyfle unigryw i chi…

Mae Golwg360 yn awyddus iawn i ymestyn ar ein darpariaeth o newyddion a chanlyniadau chwaraeon rhanbarthol.

Yn ganolog i’n cynlluniau yw datblygu rhwydwaith o gefnogwyr brwdfrydig ledled Cymru sy’n fodlon ysgrifennu am eu clybiau a chyfrannu rhagolygon ac adroddiadau wythnosol i’w cyhoeddi ar y wefan.

Mae’n gyfle i ymweld â gemau pêl-droed neu rygbi eich hoff glwb fel cynrychiolydd i Golwg360. Fe gewch weld eich gwaith yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan o wythnos i wythnos. 

Noder, rôl wirfoddol yw rhinwedd y swydd.

Os oes diddordeb gennych, e-bostiwch gutodafydd@golwg.com