Mae ffermwyr llaeth Cymru yn gweithio am golled ar hyn o bryd, ac mae angen gwneud rhywbeth er mwyn newid hynny ar unwaith, yn ôl undebau sy’n cynrychioli ffermwyr Cymru.
Ar ail ddiwrnod y Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae NFU Cymru wedi galw ar lywodraethau San Steffan a Chaerdydd i sicrhau fod ffermwyr yn cael gwell tâl am eu llaeth.
Ar hyn o bryd, mae ffermwyr Cymru yn cael eu talu 3.5 ceiniog yn llai am bob litr o laeth na’r cyfartaledd Ewropeaidd.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod ffermwyr Prydain yn derbyn 26.34 ceiniog y litr am laeth ar gyfartaledd, ond mae’r gost o gynhyrchu, ar gyfartaledd, yn 29.1 ceiniog y litr.
Yn ôl NFU Cymru, mae proseswyr a gwerthwyr llaeth yn niweidio’r diwydiant, ac yn gorfodi mwy a mwy o ffermwyr i roi’r gorau iddi.
Mae dirprwy lywydd NFU Cymru, Stephen James, yn dweud nad yw’r tâl isel mae ffermwyr yn ei gael am eu llaeth yn adlewyrchu’r cynnydd diweddar mewn galw am gynnyrch llaeth ym Mhrydain.
“Ar adeg pan fod prisiau llaeth a chaws yn codi yng ngweddill y byd, a’r galw cyffredinol am ein cynnyrch, yn cynyddu – mae’n hynod o rwystredig ac yn arbennig o annheg nad yw ffermwyr Cymru yn gallu elwa o amgylchiadau ffafriol y farchnad.
“Dydyn ni ddim yn gofyn am gael ein trin yn wahanol, nac am ffafrau, y cyfan rydyn ni eisiau yw i gael ein trin yn deg gan weddill y gadwyn ddarpariaeth, ac i dderbyn pris am ein llaeth sy’n adlewyrchu amodau’r farchnad yn well.”
Archfarchnadoedd ‘ddim yn dryst’
Yn ôl Stephen James, mae proseswyr a gwerthwyr llaeth wedi profi na all ffermwyr ymddiried ynddyn nhw i warchod y diwydiant llaeth ym Mhrydain.
“Yn anffodus, mae hanes wedi dangos na allwn ddibynnu ar ein prynwyr llaeth i ymateb i’r problemau yn y farchnad laeth,” meddai.
“Dyma pam rydyn ni’n teimlo mor gryf bod angen i’n llywodraethau ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan gefnogi argymhellion yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y diwydiant.”
Ym mis Mehefin, rhoddwyd sêl bendith Pwyllgor Amaeth y Comisiwn Ewropeaidd i becyn o argymhellion yn ymwneud â rheoli cytundebau llaeth rhwng ffermwyr a phroseswyr – yn debyg i’r hyn sydd eisoes yn bodoli mewn diwydiannau eraill.
“Byddai’r pecyn hwn, petai’n cael ei roi ar waith, yn gorfodi proseswyr a gwerthwyr llaeth i gynnig cytundeb i ffermwyr sydd â mecanwaith ar gyfer gosod prisiau oddi fewn iddo – a byddai hynny’n rhoi’r gallu i’r ddwy ochr i ddileu’r cytundeb oherwydd ymddygiad annerbyniol.”
Yn ôl Stephen James, fe fyddai’r pecyn hyn o fesurau yn “gatalydd” ar gyfer “dechrau newydd yn y berthynas rhwng ffermwyr a phrynwyr llaeth”.
Mae dirprwy weinidog amaeth Llywodraeth Cymru, Alun Davies, yn dweud ei fod yn cydnabod bod y gadwyn ddarpariaeth yn y diwydiant llaeth “wedi torri” – ond dywedodd mai’r angen mwyaf oedd am asiantaeth hyrwyddo ar gyfer y diwydiant llaeth, i helpu ffermwyr gyd-weithio i sicrhau gwell pris.