Andrew RT Davies
Mae Andrew RT Davies, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi datgelu ei gabinet newydd.

Mae arweinydd dros dro’r blaid, Paul Davies, wedi ei benodi yn Ddirprwy Arweinydd a llefarydd cyllidol yr wrthblaid.

Mae Nick Ramsay, gwrthwynebydd Andrew RT Davies yn y ras am yr arweinyddiaeth, wedi ei benodi yn llefarydd yr wrthblaid ar fenter a busnes.

Mae Angela Burns yn cadw’r portffolio addysg a Darren Millar yn llefarydd y blaid ar iechyd.

Y rhestr lawn

Paul Davies – Dirprwy arweinydd, Cyllid

Mohammad Asghar –Chwaraeon a chydraddoldeb

Angela Burns – Addysg

Byron Davies – Trafnidiaeth, Chwip

Suzy Davies – Cymraeg a Diwylliant

Janet Finch-Saunders – Llywodraeth Leol

Russell George – Amgylchedd

William Graham – Busnes, Prif Chwip

Mark Isherwood – Gogledd Cymru, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai

Darren Millar – Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Ramsay – Menter a Busnes

Antoinette Sandbach – Materion Gwledig

David Melding – Dirprwy Lywydd y Cynulliad

‘Dewis amgen’

Dywedodd Andrew RT Davies fod “cabinet yr wrthblaid yn gwneud y gorau o gefndiroedd a phrofiad ein haelodau”.

“Mae’n gabinet a fydd yn gweithio yn ddiflino er mwyn gwneud beth sydd orau i bobol Cymru.

“Rydyn ni ar ochor unrhyw un sy’n pryderu am ein busnesau, ein gwasanaeth iechyd gwladol, ein system addysg ac ein hamgylchedd.

“Ein swyddogaeth ni yw archwilio Llywodraeth Cymru, a chynnig dewis amgen er mwyn codi safonau addysg, buddsoddi yn y gwasanaetha iechyd gwladol, ac annog entrepreneuriaeth.

“Rydyn ni’n parhau yn barod i gydweithio gyda phleidiau eraill er y bydd cenedlaethol.

“Ein neges i bob un o bobol Cymru ydi: Rydyn ni ar eich ochor chi. Rydyn ni’n ymroddedig i gael canlyniadau. Rydyn ni’n benderfynol o wella Cymru.”